Hyfforddiant Pwrpasol: Strwythur a Phrisiau

Diben PAVO yw cefnogi a meithrin capasiti grwpiau lleol, felly byddem wrth ein bodd yn cydweithio gyda chi i ddatblygu rhaglen hyfforddi sy’n gwasanaethu anghenion eich tîm staff, y bwrdd, gwirfoddolwyr neu’r gymuned.

STRWYTHUR

Mae dwy haen i’n cynnig o Hyfforddiant Pwrpasol:

  • Ein Cyrsiau Portffolio presennol, a ddyluniwyd i ddiwallu anghenion amrediad eang o sefydliadau ar lefelau profiad gwahanol; gallwn eu cyflwyno i chi a’ch tîm ar ddyddiad ac mewn lleoliad sy’n gyfleus ichi. 

  • Ac ein Cyrsiau Pwrpasol, a ddyluniwyd i fodloni cefndir, ysgogiad ac anghenion dysgu grŵp penodol o gyfranogwyr..

Mae’r cyrsiau’n cael eu teilwra’n wahanol ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, o’r cyrsiau ‘Hanfodion’ ar gyfer grwpiau cymunedol newydd ac sy’n datblygu i’w paratoi gyda’r sgiliau craidd mewn pwnc penodol; at ein cyrsiau ‘Datblygu’ sy’n ystyried pynciau mewn ffordd fwy strategol i helpu ymwreiddio sgiliau ac arfer orau o fewn sefydliadau.

Hefyd mae gennym sesiynau sy’n amrywio o ran hyd ar gyfer cyd-destunau gwahanol, sy’n amrywio wrth ystyried i faint o ddyfnder mae pob sesiwn yn ystyried y pynciau dan sylw: Gweithdy Hanner Diwrnod (3.5 awr); neu Gwrs Diwrnod Llawn (6 awr). Hefyd gallwn gynnig cyrsiau deuddydd, sy’n cynnwys elfen o gynnydd, sesiynau blasu o hyd at 2 awr, neu beth bynnag sy’n addas ichi.

PYNCIAU

Ymhlith y pynciau yn ein Portffolio presennol mae:

  • Ceisiadau a Strategaeth Codi Arian
  • Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata
  • Diogelu
  • Llywodraethu
  • Rolau a Chyfrifoldebau Ymddiriedolwyr
  • Recriwtio a Rheoli Gwirfoddolwyr
  • Cyrraedd a Chynnwys Siaradwyr Cymraeg
  • Cynlluniau Busnes a Chynllunio Strategol
  • Adeiladu Tîm a Rheoli Staff
  • Hanfodion Cyllid ar gyfer Sefydliadau Bach

Os nad ydych yn gallu gweld yr hyn sydd ei angen arnoch yn y rhestr uchod, croeso ichi gysylltu â ni ynghylch datblygu cwrs pwrpasol ar gyfer eich tîm. Ymhlith esiamplau o bynciau cyrsiau diweddar mae:

  • 'Ymgysylltu â Rhanddeiliaid trwy ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn'
  • 'Mesur Effaith eich Gwaith'
  • 'Creu Sefydliad Cadarn'
  • 'Sut i gael hyd i Wirfoddolwyr Gwych a gofalu eu bod yn Cael eu Gwerthfawrogi'

PRISIAU

 CYRSIAU PORTFFOLIOCYRSIAU PWRPASOL
 Aelod PAVODim yn AelodPreifat / Cyhoeddus Aelod PAVODim yn AelodPreifat / Cyhoeddus
Hanner Diwrnod£264£352£440£432£576£720
Diwrnod Llawn£384£512£640£672£896£1120

Fel y gwelwch, yn debyg i’n rhaglen hyfforddi agored, mae gostyngiad sylweddol ar gael i Aelodau PAVO. Mae ymaelodi’n rhwydd ac am ddim, a gall unrhyw sefydliad dielw ym Mhowys ymaelodi. Felly, os nad yw’ch sefydliad yn aelod eisoes, gellir ystyried ymaelodi trwy ddilyn y ddolen yma: https://www.pavo.org.uk/about-pavo/join-pavo.html

Mae’n rhaid inni godi ffi gystadleuol ar gyfer ein Hyfforddiant Pwrpasol er mwyn helpu talu ein costau, ac i sybsideiddio’r rhaglen hyfforddiant agored.  Er hynny, mae PAVO ar gael i wasanaethu’r Trydydd Sector ym Mhowys ac rydym yn cydnabod y gall Hyfforddiant Pwrpasol / Mewnol wneud gwahaniaeth sylweddol i fudiadau llai. Felly os ydy’r prisiau uchod yn uwch na’ch cyllideb, croeso ichi gysylltu â ni er mwyn trafod ffi sy’n dderbyniol ichi efallai.

CYSYLLTU

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ar Hyfforddiant Pwrpasol neu Fewnol, gallwch gysylltu â Claire Jones ar 01597 822191 neu drwy training(at)pavo.org.uk

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity