Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys

Y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys er mwyn diwallu’r gofynion a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Diben y bwrdd yw rhoi llais i bobl ynghylch a rheolaeth dros, y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i fyw bywydau da.  Mae'n ehangu'r gofal a'r cymorth: er enghraifft: gwasanaethau hamdden (pyllau nofio, campfeydd, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd) yr un mor bwysig ag iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae llawer iawn o waith ar y gweill i gael y pethau hyn yn iawn ym Mhowys.

Swyddogaeth

Mae'r Ddeddf yn golyfgu fod gan bartneriaid ddyletswydd i weithio gyda phobl a phlant, eu teuluoedd a gofalwyr i sicrhau fod cymorth yn eu cefnogi i fyw bywydau mor llawn â phosib. Mae hyn yn digwydd yn ogystal â chefnogi'r unigolion mwyaf bregus o fewn ein cymunedau. Y nod yw diwallu anghenion yn gynt a'r gobaith yw atal/oedi o ran pobl yn gorfod defnyddio gwasanaethau cymdeithasol.

Mae gwaith y Bwrdd yn cynnwys:

  • Cynnal asesiad o boblogaeth Powys (dadansoddi anghenion y bobl gydag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr gydag anghenion cefnogaeth)
  • Sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer y blaenoriaethau a nodwyd gan asesiad y boblogaeth
  • Mwy o ymyrraeth gynnar a thechnegau atal
  • Rhoi mwy o reolaeth a pherchnogaeth i bobl o ran eu hiechyd a llesiant
  • Sicrhau y caiff lleisiau pobl leol eu clywed, a’u bod yn destun gweithredu
  • Annog syniadau newydd
  • Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Sir

Hanfod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yw gosod pobl a’r hyn sy’n bwysig iddynt yn eu bywydau wrth galon gwasanaethau iechyd a gofal. Y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n goruchwylio gwaith ym Mhowys er mwyn cyflawni hyn; pedwar Is-fwrdd sy’ cyflawni’r gwaith yma, sef y Bartneriaeth Dechrau Da, y Bartneriaeth Anabledd, y Bartneriaeth Iechyd Meddwl, a’r Bartneriaeth Pobl Hŷn. Mae’r Bartneriaeth Ranbarthol hefyd yn gyfrifol am sicrhau sut y datblygir nifer o themâu ‘trawsbynciol’ e.e. Gofalwyr,  yn ei waith (a gwaith yr Is-fyrddau).

Swyddogaeth

Amlinellir y blaenoriaethau a bennwyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer Powys yng Nghynllun Ardal Powys sef y Strategaeth Iechyd a Gofal. Ymhlith blaenoriaethau a chyfrifoldebau’r Bwrdd mae:

  • Cynnal asesiad o boblogaeth Powys (dadansoddi anghenion y bobl gydag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr gydag anghenion cefnogaeth)
  • Sicrhau bod adnoddau ar gael ar gyfer y blaenoriaethau a nodwyd gan asesiad y boblogaeth
  • Mwy o ymyrraeth gynnar a thechnegau atal
  • Rhoi mwy o reolaeth a pherchnogaeth i bobl o ran eu hiechyd a llesiant
  • Sicrhau y caiff lleisiau pobl leol eu clywed, a’u bod yn destun gweithredu
  • Annog syniadau newydd
  • Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Sir

I helpu datblygu’r gwaith yma, mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol hefyd yn gyfrifol am ddyrannu cyllid ‘Cronfa Gofal Integredig’ Llywodraeth Cymru; defnyddir y cyllid yma i gefnogi cyflenwi rhai o’r camau gweithredu blaenoriaeth yn y Cynllun Ardal (Strategaeth Iechyd a Gofal).

Aelodaeth

  • Cyngor Sir Powys
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • PAVO
  • Sefydliadau Trydydd sector
  • Y Sector preifat
  • Pobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (mae PAVO yn cefnogi cynrychiolwyr dinasyddion i gyflawni eu rôl)
  • Gofalwyr.

Academi Iechyd a Gofal Powys

Mae gwaith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys wedi cynnwys creu Academi Iechyd a Gofal newydd ym Mhowys, fel rhan o fenter ledled Cymru i gynyddu mynediad lleol i addysg, hyfforddiant a datblygiad ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch glywed mwy am Academi Iechyd a Gofal Powys yma: https://cy.powysrpb.org/powyshealthandcareacademy

 

 

Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:

Carl Cooper (Prif Weithredwr PAVO) a Clair Swales (Uwch Swyddog Iechyd a Gofal Cymdeithasol PAVO)

Amserlen cyfarfod: bob deufis.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity