Pecyn Cymorth Cynnig Rhagweithiol

Mae'r Pecyn Cymorth Cynnig Rhagweithiol yma i'ch cefnogi chi i weithredu mwy o’ch gwasanaethau drwy’r Gymraeg.

Yma’ng Nghymru, gall cynhwysiant fod yn rhan fawr o lwyddiant eich mudiad, ac mae cynnig eich gwasanaethau yn Gymraeg yn gam mawr tuag at gyflawni eich addewid i boblogaeth Cymraeg ei hiaith.

Mae’r Cynnig Rhagweithiol yn golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg he bi rywun orfod ofyn amdano.

Yn ogystal â chael effaith ddiwylliannol byddwch hefyd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 sy'n nodi, os ydych chi'n fudiad sy'n derbyn cyllid gan eich awdurdod lleol neu fwrdd iechyd, rydych chi fod i gyflawni neu o leiaf weithio tuag ato Cynnig Rhagweithiol o fewn gwasanaethau eich sefydliadau.

 

Gallwn gefnogi'ch mudiad gyda'r canlynol:

  • Sgwrs am y Cynnig Rhagweithiol a sut mae'n effeithio chi.
    Dewch i gael sgwrs gyda Swyddog Datblygu PAVO i ddarganfod mwy am y Cynng Rhagweithol, beth all eich mudiad wneud i'w gyflawni, ac i gael syniad cyffredinol o ble i gychwyn ar eich taith Cynnig Rhagweithiol.

     
  • Hyfforddiant cefnogol ar y Cynnig Rhagweithiol
    Mynychwch sesiynau hyfforddi cefnogol swyddog y prosiect i ddadansoddi sut y gall eich mudiad fynd ati i ddechrau gyda'i Gynnig Rhagweithiol. Mae'r hyfforddiant hwn am ddim ac yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am ddechrau neu adnewyddu eu dealltwriaeth o'r Cynnig Rhagweithiol.

     
  • Cymorth ar ddatblygu Cynllun Gweithredu Cynnig Rhagweithiol
    Trwy gefnogaeth ac arweiniad uniongyrchol gan y swyddog prosiect, gall eich mudiad ddatblygu cynllun gweithredu i’r Cynnig Rhagweithiol. Gall cael cynllun ar gyfer eich dull cam wrth gam sicrhau ei lwyddiant.

     
  • Mynediad at fideos yn esbonio'r Cynnig Rhagweithiol
    Gwyliwch fideos a grëwyd gan swyddog y prosiect yn disgrifio cyd-destun y Cynnig Rhagweithiol, yr hyn y mae'n ei olygu i bobl, a'r effaith ddiwylliannol y gall ei chael yma yng Nghymru.

     
  • Mynediad ar-lein at y pecyn deunyddiau
    Mae'r Pecyn Deunyddiau Cynnig Gweithredol yn cynnwys Pecyn Gwybodaeth, Llyfr Ymadroddion, Gwiriad Iechyd Sefydliadol sy'n gysylltiol a’r Gymraeg, Cardiau Fflach, Posteri a mwy. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r deunyddiau rhain o fewn eich mudiad.

     
  • Fideos ar sut i ddefnyddio'r pecyn yn effeithiol
    Gwyliwch fideos yn torri i lawr sut i ryddhau potensial y pecyn deunyddiau, a sut y gallwch chi weithredu ei ddefnyddioldeb yn eich gwaith bob dydd.

     
  • Cardiau fflach/llyfryn ymadroddion wedi'i deilwra i'ch mudiad
    Gall y prosiect Cynnig Gweithredol helpu i ddatblygu cardiau fflach ac ymadroddion yn Gymraeg i'ch mudiad eu defnyddio. Gall y rhain fod yn gwestiynau, ymadroddion a / neu gyfarchion rheolaidd rydych chi a'ch mudiad yn eu defnyddio bob dydd.

     
  • Mynediad at nifer bach o gyfieithu
    Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gall y prosiect Cynnig Gweithredol eich cefnogi gydag ychydig bach o gyfieithu Cymraeg. Gall hyn amrywio o boster cyfryngau cymdeithasol i swydd ddisgrifiad neu rôl gwirfoddolwr a allai eich cynorthwyo i ehangu eich sylfaen gynulleidfa.

     
  • Sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda Dysgu Cymraeg
    Dewch draw i sesiwn a wnaed mewn cydweithrediad â Dysgu Cymraeg ar Ymwybyddiaeth Iaith sy'n ceisio cynyddu eich ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o'r Gymraeg yng Nghymru heddiw, ac i drafod sut y gallwch chi gyfrannu at ei ffyniant.

I wneud dechreuad, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lliwedd ar  lliwedd.jones@pavo.org.uk neu ffoniwch  01597 822191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity