Mae’r Hwb Gwybodaeth yn offeryn hawdd ei ddefnyddio i helpu mudiadau gwirfoddol i ddatblygu sgiliau, dysgu a chael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel am feysydd allweddol fel rhedeg eich mudiad, gwirfoddoli, cyllid a dylanwadu.
Yn ogystal â detholiad o daflenni gwybodaeth a chyrsiau ar-lein, mae’r Hwb Gwybodaeth hefyd yn rhoi’r cyfle i chi rwydweithio â chymheiriaid a chael trafodaethau ar bynciau sydd o bwys i chi.
I fanteisio ar yr Hwb Gwybodaeth newydd, cofrestrwch yn cefnogitrydyddsector.cymru. Mae’r Hwb Gwybodaeth yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio gan unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, neu’r rheini sydd eisiau bod yn rhan o’r sector am y tro cyntaf.
Peidiwch ag anghofio - mae PAVO yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddiant i fudiadau Powys.