Cludiant Cymunedol ym Mhowys

Mae Cludiant Cymunedol (CC) yn bodloni anghenion cymunedau lle nad yw’n bosib diwallu’r anghenion hynny’n foddhaol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol.

Gall gweithgarwch ym maes CC amrywio o ddarparu cludiant drws i ddrws hygyrch ar gyfer pobl gyda phroblemau symudedd, i helpu cynhwysiant cymdeithasol amrediad eang o bobl fyddai fel arall yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau arferol bywyd dyddiol, addysg a hyfforddiant, a gwaith.  Mewn ardaloedd gwledig, gall CC leihau effaith unigedd daearyddol trwy roi gwell mynediad i ganolfannau lleol a rhanbarthol.

 

Mae CC yn rhan hollbwysig o system cludiant integredig sy’n bwydo mewn i ac allan o’r prif goridorau a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus. Mae nifer o gynlluniau CC llwyddiannus o fewn Powys. Datblygodd y mwyafrif i fodloni anghenion grwpiau difreintiedig yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl.

 

Mae’r cynlluniau yma’n cynnwys:

  • Cynlluniau Galw’r Gyrrwr
  • Cynlluniau Cerdyn Tacsi
  • Cynlluniau Ceir Cymunedol a Gwirfoddol
  • Bysiau Cymunedol (Adran 22)
  • Cynllun Hurio ar gyfer Grwpiau (PAVO)

Dylid cysylltu â’r cynlluniau unigol ar gyfer ffurflenni ymaelodi a gwybodaeth.

Manylion pellach

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â PAVO
01597 822191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity