Sylwadau, Cwynion a Chanmoliaethau

Mae PAVO yn croesawu adborth am ei wasanaethau. Gall hyn fod yn sylw cyffredinol, yn ganmoliaeth am y gwasanaeth neu'r gweithiwr neu awgrymiadau ynghylch sut y gellid gwella pethau. Defnyddiwch ein Ffurflen Cysylltu â Ni isod i anfon eich adborth atom.

Mae PAVO am ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n haelodau a'r trydydd sector ym Mhowys ac rydym yn ymrwymedig i wella'n barhaus.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y bydd adegau pan fydd pethau'n mynd o chwith. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym pryd mae hyn yn digwydd fel y gallwn ddelio'n fuan â'r broblem. Os yw'r mater sy'n peri pryder i chi yn rhywbeth, y teimlwch, sy angen dull mwy ffurfiol nag anfon neges atom, rydym yn eich annog i ddefnyddio ein gweithdrefn gwyno isod.

Mae adborth yn ein helpu ni i wella ansawdd ein gwaith!

Gweithdrefnau Cwyno PAVO

 

 

Os ydych yn anhapus gydag unrhyw un o’n gwasanaethau, mae PAVO yn ymrwymo i ddelio gyda’r mater yn gyflym ac mewn ffordd effeithiol:

 

  • Yn y lle cyntaf, dylid cysylltu ag unrhyw aelod o staff i weld a yw’n bosib datrys y broblem mewn ffordd foddhaol.  Bydd staff PAVO yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud pethau’n iawn, gan gynnwys adolygu gweithdrefnau er mwyn atal problemau rhag digwydd eto.
  • Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb, hwyrach y byddwch am symud at gŵyn ffurfiol. Dylid defnyddio’r ffurflen cwyno priodol isod i gofrestru gŵyn ffurfiol a bydd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Mewnol yn ei dderbyn, ac yn cydnabod derbyn y gŵyn gyda throad y post.
  • Bydd Uwch Swyddog Gwasanaethau Mewnol yn cyfeirio’r gŵyn at aelod priodol o’r Uwch Dîm Rheoli, fydd yn ymchwilio i’r materion a nodwyd, ac yn cyflwyno ymateb ysgrifenedig ar ran PAVO o fewn 28 diwrnod i ddyddiad derbyn y  gŵyn yn wreiddiol.
  • Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb yma, mae gennych hawl i ofyn cyfeirio’r mater at uwch swyddog staff o fewn PAVO i’w adolygu. Gall fod yn Gadeirydd, Ymddiriedolwr, neu’r Prif Weithredwr fel sy’n briodol. Cewch ymateb ysgrifenedig gyda’r canlyniad o fewn 28 diwrnod i’r cais i adolygu’r gŵyn. 
  • Os ydych dal yn anfodlon, cewch eich hysbysu am ffyrdd eraill i fynd â’r mater ymhellach.

 

  • Ar gyfer pob penderfyniad mewn perthynas â chynlluniau grant o ran a ddylid dyfarnu grant, a’r swm, y pwyllgor perthnasol sy’n gyfrifol, ac mae ei benderfyniad yn derfynol. Mae gan ymgeiswyr at unrhyw gynllun grant yr hawl i wneud gŵyn ynghylch gweinyddu’r cynllun, gan ddilyn gweithdrefnau cwyno PAVO.
  • Os bydd PAVO yn gweithredu fel asiant ar ran sefydliad arall i ddyrannu grantiau, hysbysir y sefydliad dan sylw am y gŵyn, ac estynnir gwahoddiad iddynt gyfrannu at yr ymchwiliad. Caiff pwyllgor grantiau perthnasol PAVO ei hysbysu am ganlyniad yr ymchwiliad. Hwyrach y gofynnir i’r pwyllgor grantiau wella ei weithdrefnau a safon y gwasanaeth, os yn briodol. 
  • Cewch ymateb ysgrifenedig o ganlyniad yr ymchwiliad o fewn 28 diwrnod i dderbyn y gŵyn wreiddiol. Yn debyg i weithdrefnau cwyno PAVO, os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb, gallwch ofyn am adolygiad.

Gwneud cwyn

POLISI A GWEITHDREFN CWYNION PAVO

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity