Ymaelodi â PAVO – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys

Ymunwch â ni ynghyd â dros 700 o sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol eraill ar draws Powys: i gydweithio ar gyfer Powys well!

Mae aelodaeth YN RHAD AC AM DDIM.  Dyma’r Ffurflen Gais.

Manteision bod yn aelod:

  • byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf un – llythyr e-briffio misol ar gyfer aelodau sy’n cynnwys newyddion cyllido, hyfforddiant a digwyddiadau;
  • porth cyllido PAVO Open4Community – i allu chwilio eich hunan am gyllid neu i bori cyllidwyr fesul thema;
  • gwahoddiadau i ddigwyddiadau a chyfarfodydd - o Gynhadledd Flynyddol PAVO, sesiynau briffio ar bolisïau a mentrau newydd y llywodraeth, i ddigwyddiadau mwy lleol ar gyfleoedd cyllido a phynciau eraill. Bydd PAVO yn eich cysylltu â phobl yn yr un maes gwaith â chi ar lefel leol, sirol, genedlaethol neu ryngwladol; cael dweud eich dweud ar faterion pwysig – a chyfle i gyfrannu at ymgynghoriadau ac i’ch ymatebion gael eu clywed.
  • mae PAVO yn rhannu eich llais gyda phrif bartneriaid ym Mhowys, gan gynnwys Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac yn genedlaethol trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.

 

Felly, bachwch ar y cyfle: ymunwch â ni heddiwDyma’r Ffurflen Gais.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity