Cyfle i ddweud eich dweud - a chyfrannu at bartneriaethau sy'n cynrychioli ein sector neu brofiadau'r sawl sy'n defnyddio gwasanaethau.
Mae gan lawer o grwpiau cynllunio strategol Powys (yn enwedig y sawl sy'n ymwneud â maes iechyd a gofal cymdeithasol) gynrychiolwyr trydydd sector neu ddinasyddion ymhlith eu haelodaeth; ac mae PAVO yn cefnogi'r unigolion hyn i gyflawni'r rôl hon.
I ddysgu mwy am rôl cynrychiolwyr ac unrhyw gyfleoedd cyfredol sydd ar gael, cysylltwch â ni.
Mae PAVO yn dilyn trefn deg, agored a chlir er mwyn cael hyd i a dethol cynrychiolwyr. Weithiau bydd gan bartneriaeth ddyletswydd benodol sy’n olrhain sut y dylid penodi cynrychiolwyr, fodd bynnag, lle bo’n bosib mae PAVO yn dilyn y drefn isod:
Mae PAVO yn cynnig cefnogaeth amrywiol i bobl sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr trydydd sector a dinasyddion ar bartneriaethau cenedlaethol a lleol Powys.
Rwyf yn byw yn Ystradgynlais ac wedi gofalu am fy ngwraig, ynghyd ag aelodau eraill y teulu ar adegau gwahanol, ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain, ac mae gen i brofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a/neu wasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal â sefydliadau trydydd sector ym Mhowys, sy’n golygu y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Doeddwn I ddim yn sylweddoli taw ‘gofalwr’ oeddwn tan ryw ddeuddeg mlynedd yn ôl, a’r adeg honno y cofrestrais a dechrau derbyn y gefnogaeth hynod werthfawr oedd yn golygu fy mod yn gallu ymdopi’n llawer gwell a pharhau i gynnig gofal.
Rwyf yn gysylltiedig â llawer o grwpiau iechyd, iechyd meddwl a chymdeithasol yn y trydydd sector, gan gynnwys Gwasanaeth Gofalwyr Powys (Credu erbyn hyn) ac rwyf yn cefnogi grŵp gofalwyr lleol, i sicrhau y caiff ein lleisiau eu clywed gan wasanaethau eraill, gan ledu’r gair bod llawer o gefnogaeth ar gael i ofalwyr, annog gofalwyr i gyfrannu a sicrhau y defnyddir adnoddau ar gyfer gofalwyr.
Trwy ddefnyddio’r rhwydweithiau hyn, ynghyd â bore coffi rheolaidd a gynhelir, cynigir potensial i gyrraedd pobl newydd. Rwyf yn unigolyn brwdfrydig ac ymrwymedig, a theimlaf y gallaf ddefnyddio fy sgiliau cyfranogi a dylanwadu i’r rôl fel cynrychiolydd ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys.
Rwyf mewn parchedig ofn braidd i fod yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Rwyf yn hoffi gweithio fel aelod o dîm ac yn mwynhau clywed syniadau pobl eraill. Gobeithio y bydd rhai o’m profiadau yn y gorffennol yn ddefnyddiol, ac y gallaf gyfrannu at waith y Bwrdd.
Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Pobl Hyn, ac yn Gadeirydd Cyfeillion Ysbyty a Chymuned Bronllys, sy’n golygu fod fy mod i ddod i gysylltiad â chleifion ar y ward ac yn yr Ysbyty Dydd. Rwyf yn gweld yr anghenion sydd ganddynt, a’r amser mae rhai ohonynt yn treulio yn yr ysbyty yn disgwyl pecyn gofal neu gerbyd neu gartref nyrsio. Mae’r sefyllfa’n gwella, ond mae pellter i deithio eto. Rwyf yn credu’n daer mewn cael llety addas ar gyfer yr henoed – i lawer, eu cyrff sy’n eu methu, ond mae’r meddwl yr un mor weithgar ac yn gallu gofalu am eu hunain. Y cwbl sydd ei angen yw ychydig mwy o gymorth neu wybod bod rhywun o gwmpas i helpu. Mae angen gofal arbenigol ar y sawl sydd â dementia, felly hefyd pobl o bob oed gyda phroblemau iechyd meddwl. Eto yn fy marn I, mae’r gwasanaeth hwn yn gwella.
Mae rhai o’m profiadau, yn y gorffennol a rhai presennol, wedi dylanwadu ar fy marn am ofal yn ein cymunedau. Mae fy nghefndir ym myd dysgu - yr 20 mlynedd olaf mewn ysgol ar ystâd cyngor anodd, ac mae gennyf atgofion melys am y bobl oedd yn byw yno. Am ran o’r wythnos ar un adeg, roeddwn hefyd yn treulio amser gyda phlant ag anghenion arbennig, ac fel Dirprwy Bennaeth, fi oedd y Swyddog Diogelu Plant. Rodd hyn yn golygu fy mod yn cael cysylltiad gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r heddlu. Roedd rhai o’r problemau’n ddigon i dorri’r galon. Yn ystod fy mlwyddyn olaf fel athrawes, sefais fel cynghorydd ym Mwrdeistref Harrow yn Llundain....ac ennill y sedd. Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd, des ar draws pobl ddigartref a’r amddifad, unigolion mewn sefyllfa dorcalonnus.
Ar ôl ymddeol, roeddwn yn gallu dechrau gweithio ar bwyllgorau. Fi oedd cynrychiolydd y cyngor ar Gymdeithas Wirfoddol Harrow. Yn fuan iawn, cefais fy synnu at gynifer y sefydliadau gwirfoddol oedd yn bodoli, a sylweddolais y byddai cymdeithas yn chwalu hebddynt. Mae’n amhosib gweithio allan gwerth eu gwaith a’r cyfraniad maent yn ei wneud. Roeddwn yn aelod o Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol. Sylweddolais werth gofalwyr di-dâl yn y cartref, a chyn lleied roeddem yn ystyried eu hanghenion nhw. O dro i dro byddem yn cynnal digwyddiad ar gyfer gofalwyr ifainc. Roeddem yn awyddus iddyn nhw wybod ein bod yn eu gwerthfawrogi ond nid oed dyn bosib gwneud hyn mor aml ag y byddem yn gallu, oherwydd roedd yn rhaid trefnu cymorth ar gyfer y bobl roeddynt yn gofalu amdanynt. Rwyf yn dal i barchu’r unigolion yma. Doedden nhw ddim yn cwyno. Byddai llawer ohonynt yn codi’n gynnar, yn gweithio’n galed, yn mynd i’r ysgol ac wedyn ar ôl cyrraedd adref, yn mynd yn ôl i’r rôl gofal. Hefyd roedd rhai yn gofalu am frodyr a/neu chwiorydd iau. Mae’n rhaid bod eu gwaith ysgol wedi dioddef, ac roedd yn rhaid i’r mwyafrif gael amser i ffwrdd o’r ysgol. Roedd rhai o’r gofalwyr yma’n ifanc iawn, ond gyda phen aeddfed ar eu hysgwyddau. Rwyf yn sicr bod llawer mwy o ofalwyr yn bodoli nag yr oeddem yn ymwybodol ohonynt. Mae’n rhaid inni sicrhau fod ein gofalwyr yn derbyn cymorth priodol, ac nid ydynt yn dioddef o salwch neu iselder.
Gobeithio y bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl