BETH YW’R GWASANAETH CYSYLLTWYR CYMUNEDOL

Mae’r Gwasanaeth yn cefnogi pobl 18+ ym Mhowys, a’u teuluoedd neu ofalwyr i gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau yn y gymuned leol fydd yn eu helpu i barhau i fyw’n annibynnol, ac i atal eu hamgylchiadau rhag dirywio i sefyllfa lle bydd angen gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol lefel uwch.

Hefyd gall y gwasanaeth gefnogi pobl wrth ddod adref o’r ysbyty trwy helpu gwasanaethau eraill y Trydydd Sector, megis y Groes Goch, i adnabod gwasanaethau lleol ychwanegol sydd eu hangen efallai.

Beth yw'r Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol?

Beth mae’r Gwasanaeth yn ei wneud?

Mae’r Gwasanaeth:

  • Yn delio gydag atgyfeiriadau neu geisiadau gan sefydliadau neu unigolion sydd am dderbyn cymorth gan sefydliadau cymunedol a gwirfoddol lleol ar gyfer pobl sydd angen eu gwasanaethau efallai megis cynlluniau cyfeillion, siopa, eiriolaeth, addasiadau i’r cartref, cludiant cymunedol neu gefnogaeth gyda phryderon penodol ym maes iechyd megis Dementia.
  • Yn gweithio gydag unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio i adnabod gofynion ac wedyn eu cefnogi i gael mynediad at wasanaethau neu weithgareddau yn y gymuned sy’n addas iddyn nhw, ac yn ceisio rhoi’r wybodaeth yma adeg y cyswllt cyntaf gyda’r unigolion, trwy ddefnyddio agwedd “iawn y tro cyntaf".
  • Yn bresennol mewn meddygfeydd lleol, er mwyn brocera mynediad at gymorth Trydydd Sector ar gyfer cleifion bregus/mewn oed ar draws Powys gyfan fel rhan o fodel gwasanaeth ‘Wardiau Rhithiol’ Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP).
  • Yn gweithio fel rhan o dimau amlddisgyblaethol ysbytai cymunedol i ddarparu cymorth ac arweiniad ar gyfer timau lleol o ran y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol fydd efallai’n cynorthwyo pobl i adael yr ysbyty yn gynt.
  • Yn helpu adnabod meysydd anghenion sydd heb eu diwallu neu fylchau mewn perthynas â darparu gwasanaethau; wedyn defnyddir y dystiolaeth yma i helpu hysbysu cynllunio gwasanaethau’r sector cyhoeddus a’r Trydydd Sector

Ble mae'r gwasanaeth ar gael?

Mae’r Gwasanaeth Cydlynu Iechyd a Llesiant yn y Gymuned ar gael ar draws Powys gyfan.  Er hynny, nid oes Cysylltwr Cymunedol ar gael ym mhob ardal o’r Sir ar hyn o bryd. Cysylltwyr Cymunedol sy’n gweithio trwy Linell Uniongyrchol Powys sy’n delio gydag atgyfeiriadau neu ymholiadau gan bobl heb Gysylltwr Cymunedol lleol ar hyn o bryd.

 

Ardal

Cysylltwr Cymunedol

Lleoliad Swyddfa

Aberhonddu

Mathew Bailey

Neuadd Brycheiniog - Aberhonddu

Llanfair ym Muallt / LlanwrtydLynda Rogers

Glan Irfon, Llanfair ym Muallt

CrucywelClare Sutton

Meddygfa Crucywel

Tref-y-clawdd/ LlanandrasHayley Lloyd

Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd

Y Gelli Gandryll a Thalgarth

Helen Quinlan

Ysbyty Bronllys

Llandrindod a Rhaeadr Gwy

Claire McNiffe

Swyddfa PAVO, Llandrindod

Llanfyllin, Tanat, Cain a Vyrnwy

Bobbie Bowden

 
 Yr Allweddi Croes
 

Y Drenewydd a Llanidloes

Claire Powell

Swyddfa PAVO, Y Drenewydd

Y Drenewydd a Threfaldwyn

Ceri Williams

Swyddfa PAVO, Y Drenewydd

Bro Ddyfi a Machynlleth

Sioned Pritchard

Canolfan Ofal, Machynlleth

Y Trallwng a Llanfair Caereionion

Pauline Chapman-Young

Swyddfa PAVO, Y Drenewydd

Ystradgynlais

Llian Cornish

Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais

Powys Gyfan (uwch swyddog)

Sharon Healy

Swyddfa PAVO, Llandrindod

Swyddog ar Ddyletswydd

Ali Thomas

Swyddfa PAVO, Llandrindod

Sut i gael mynediad at y gwasanaeth?

Gellir atgyfeirio at y Gwasanaeth trwy unrhyw un o’r canlynol:

Sut gallaf ddysgu mwy?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol, cysylltwch â Clair Powell (PAVO) clair.powell@pavo.org.uk 01597 822191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity