Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru yw creu Cymru well. Mae’n cynnwys dyletswydd gyfreithiol i sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) ar gyfer Powys

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru yw creu Cymru well. Mae’n cynnwys dyletswydd gyfreithiol i sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) ar gyfer Powys

 

Swyddogaeth

Rôl y PSB yw gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Powys trwy gydweithio’n well ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus.

 

Dyletswydd y PSB yw:

  • Asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ym Mhowys – Asesiad Llesiant Powys
  • Gosod amcanion sy’n cyfrannu at y nodau llesiant - Cynllun Llesiant Powys

Mae’n rhaid i’r PSB ymgynghori’n helaeth.

Hefyd mae’n rhaid i’r PSB gynnal adolygiad blynyddol o Gynllun Llesiant Powys er wyn dangos cynnydd.

Aelodaeth

Mae aelodaeth statudol PSB Powys fel a ganlyn:

  • Cyngor Sir Powys
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae PSB Powys yn gorfod gwahodd y sefydliadau canlynol i gyfrannu:

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Heddlu Dyfed-Powys
  • Cynrychiolydd Trydydd Sector: Cymdeithas mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO)
  • Cynrychiolydd y Gwasanaeth Prawf ym Mhowys: Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
  • Cynrychiolydd ar ran Gweinidogion Cymru: Pennaeth Ynni, Dwr a Bwyd
  • Cytunwyd hefyd i wahodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i gyfrannu at waith PSB Powys.

Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:

Carl Cooper (Prif Weithredwr PAVO) a Martin Nosworthy (Cadeirydd PAVO)

Amserlen Cyfarfod: 4 gwaith y flwyddyn.

 

Adroddiadau Blynddol

2019-2020

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity