Plant a Phobl Ifanc

Mae PAVO yn cefnogi sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd trwy waith y tîm Datblygu, Canolfan Gwirfoddoli Powys a thrwy ddarparu cyfleoedd hyfforddi.

Yn yr adran hon

O safbwynt plant a theuluoedd Powys, rôl Swyddog Datblygu Dechrau Da PAVO yw gwrando ar eich pryderon a chwestiynau am y gwasanaethau, y grwpiau a’r gweithgareddau sydd ar gael i’ch teulu, a chodi’r materion hyn gyda’r sefydliadau dan sylw, gan gynnwys Bwrdd Iechyd addysgu Powys a Chyngor Sir Powys er mwyn ceisio ateb a datrys eich problemau. Bod yn llais ar eich rhan a bod yn rhan o’r gwaith i ddatblygu’r gwasanaethau a ddefnyddir gan eich teulu.

O safbwynt sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd Powys, rôl Swyddog Datblygu Dechrau Da PAVO yw bod yn gyfrwng ar gyfer gwybodaeth rhwng y trydydd sector a’r plant a theuluoedd mae’r sector yn gweithio gyda nhw, a gwaith Bwrdd Dechrau Da a’r ffrydiau gwaith dan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. I gynnwys yn rheolaidd, diweddariadau ar gyfer y sector, trwy ebost ac e-fwletinau gan gynllun Dechrau Da a ffynonellau perthnasol eraill.

Gall staff PAVO barhau i gefnogi sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y ffyrdd canlynol:

Gall Cysylltwyr Cymunedol gefnogi rhieni ac unrhyw un dros 18 oed, i gael hyd i grwpiau cymorth a gweithgareddau perthnasol. Gellir cysylltu â’r Cysylltwyr Cymunedol drwy ffonio’r rhif canolog yma - 01597 828 649.

Gall Canolfan Gwirfoddol Powys helpu unrhyw sefydliad a grŵp cymunedol i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, a gall eu helpu i hysbysebu cyfleoedd ar wefan Gwirfoddoli Cymru. Ffoniwch  01597 822 191 am fwy o wybodaeth, neu ewch at y wefan ar: www.volunteering-wales.net

Gall tîm Datblygu PAVO helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc trwy roi cyngor ar faterion llywodraethu, chwilio am gyllid a darparu hyfforddiant. Ffoniwch 01597 822 191 am gymorth.

Gall llinell gymorth CYMORTH POWYS roi gwybodaeth a chymorth ar eu llinell gymorth: 0345 602 7050. Gwasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Powys yw hwn.

 

Pobl Ifanc - os oes angen cymorth arnoch ar unwaith, gellir ffonio  Childline ar 0800 1111 neu gellir dysgu mwy ar wefan Childline yma - www.childline.org.uk.   Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Gwybodaeth Plant a Theuluoedd

Nid yw blog Plant a Phobl Ifanc PAVO yn cael ei ddiweddaru mwyach. Mae gwybodaeth berthnasol yn dal i gael ei phostio ar y dudalen Facebook hon- https://www.facebook.com/ChildrenYoung-People-and-Families-in-Powys-1674963756127806/

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity