Cefndir PAVO

PAVO yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys sy’n cefnogi’r trydydd sector ym Mhowys (trydydd sector yw’r term ar gyfer amrediad o sefydliadau, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, elusennau cofrestredig a chymdeithasau, grwpiau hunangymorth a grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydfuddiannol a chydweithfeydd.)

 

Sefydliad aelodau yw PAVO.  Mae aelodaeth ar agor i bob sefydliad a grŵp trydydd sector a Chynghorau Tref a Chymuned ym Mhowys, sy’n gweithio i ddiwallu anghenion trigolion a chymunedau ar draws y Sir. Mae gennym dros 730 o sefydliadau sy’n aelodau, ac rydym yn cael cysylltiad rheolaidd gyda mwy na 1500 o sefydliadau.


Mae PAVO yn atebol i fwrdd ymddiriedolwyr sy’n cael eu hethol gan ein haelodau.


Mae’r aelodau ac ehangder ein gwaith yn tanategu rôl bwysig PAVO o ran darparu llais strategol ac atebol ar ran trydydd sector Powys.


Mae PAVO yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant ac yn Elusen Gofrestredig  (Rhif Elusen Gofrestredig: 1069557, Rhif Cwmni Cyfyngedig trwy Warant: 3522144. Swyddfa Gofrestredig: Uned 30, Ystâd Ddiwydiannol Heol  Ddole, Llandrindod, Powys LD1 6DF.)


Rydym yn cyflogi staff llawn amser a rhan amser, yn bennaf rhwng ein dwy swyddfa yn Y Drenewydd a Llandrindod.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity