Prosiect Cynnig Rhagweithiol PAVO

Ar y dudalen yma:

Beth yw'r Cynnig Rhagweithiol?
Beth yw'r Prosiect Cynnig Rhagweithiol?
Pa fath o gefnogaeth mae'r Prosiect yn cynnig?
Y Pecyn Deunyddiau ac adnoddau ychwanegol
Ffurflen Ymgynghori'r Cynnig Rhagweithiol
Digwyddiad Lansio'r Prosiect Cynnig Rhagweithiol

 

Beth yw’r Cynnig Rhagweithiol?

Y Cynnig Rhagweithiol yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod ofyn amdano.

Y Prosiect Cynnig Rhagweithiol

Mae Lliwedd Jones, sef Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg PAVO wedi bod yn datblygu deunyddiau i gefnogi mudiadau efo’r Cynnig Rhagweithiol. Trwy ymgynghoriad agos efo’r sector, creodd pecyn deunyddiau i roi help llaw i fudiadau darparu mwy o wasanaethau iaith Gymraeg.

Pa fath o gefnogaeth mae'r prosiect yn ei gynnig?

Mae swyddog y prosiect Lliwedd Jones wedi bod yn cynnig cymorth a chefnogi mudiadau trydydd sector ar draws Powys i ddarparu mwy o'u gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy ymgynghoriad agos gyda'r sector, mae'r prosiect wedi gallu cefnogi mudiadau gyda:

- Drafftio Cynllun Gweithredu iaith Gymraeg

- Cynnwys y Cynnig Rhagweithiol mewn ceisiadau cyllid

- Cyfeirio mudiadau i arbenigwyr ar gyfer chefnogaeth iaith Gymraeg

- Cefnogaeth gyda marchnata dwyieithog a chyfryngau cymdeithasol

- Hyfforddiant ac Webinars ar y Cynnig Rhagweithiol

- Gwasanaethau cyfieithu

- Canllawiau ar sut i ddefnyddio'r pecyn deunyddiau a grëwyd i'r prosiect

- Cymorth arbenigol ar unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg

Cliciwch yma i weld y Pecyn Cymorth Cynnig Rhagweithiol 

Ffurflen Ymgynghori'r Cynnig Rhagweithiol

Isod mae linc i'r Ffurflen Ymgynghori'r Cynnig Rhagweithiol, Os gwelwch yn dda llenwch y ffurflen ymgynghori isod i ddangos eich ymroddiad i'r Cynnig Rhagweithiol. Byddaf mewn cysylltiad i gefnogi eich mudiad gydag agwedd cam wrth gam i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod ofyn amdano.

https://bit.ly/CRhffurflen

 

Y Pecyn Deunyddiau ac Adnoddau Ychwanegol

Pecyn Gwybofaeth y Cynnig Rhagweithiol

Beth yw'r Cynnig Rhagweithiol? Darllenwch y pecyn hwn i weld lle allwch chi gychwyn.

 

Cardiau Fflach y Cynnig Rhagweithiol

Ymadroddion defnyddiol wrth ddarparu'ch gwasanaethau'n ddwyieithog. Rhowch gynnig ar ychydig dros y ffôn!

Llyfryn Ymadroddion y Cynnig Rhagweithiol

Dysgwch rai ymadroddion Cymraeg defnyddiol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â'r trydydd sector. Mae'r llyfr ymadroddion yn cynnwys y Cymraeg, seineg y Gymraeg, a'r cyfieithiad Saesneg.

 

Ymadroddion Cymraeg i'ch Cyfryngau Cymdeithasol

Defnyddiwch mwy o'r Gymraeg yn eich newyddion diweddaraf i'r sector.

 

Where are you now Checklist Ble ydych chi nawr?

Dewch i adnabod gallu eich mudiad gyda'r Gymraeg gyda'r deunydd defnyddiol hwn.

 

Mwy o Ymadroddion Cymraeg i'ch Cyfryngau Cymdeithasol

Defnyddiwch fwy o Cymraeg yn eich diweddariadau i'r sector!

 

Fideos Esboniadol y Cynnig Rhagweithiol

Manylwch ar sut y gallwch chi ddefnyddio'r pecynnau deunyddiau trwy wylio'r rhestr hon o fideos dwyieithog defnyddiol.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity