Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae PAVO yn cefnogi sefydliadau Trydydd Sector sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i weithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd, y Cyngor Sir ac eraill i ddatblygu gwasanaethau gwell ar gyfer trigolion Powys.

Yn yr adran hon

Mae tîm Iechyd a Gofal a Llesiant PAVO yn cefnogi sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol trwy:

  • Ddiweddariadau am yr hyn sy’n digwydd
  • Dod â chi at eich gilydd i rwydweithio a gwrando ar eich gilydd
  • Sicrhau bod rhywun yn gwrando arnoch ac yn gweithredu ar hyn
  • Darparu gwybodaeth a hyfforddiant ar ddatblygiadau newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Darparu llais ar ran y Trydydd Sector ym Mwrdd ac Is-fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol Powys

Iechyd a Gofal Cymdeithasol - cyfrannu

Trwy waith ein Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae PAVO yn rhedeg nifer o rwydweithiau arbenigol:

Mae cyfarfodydd a digwyddiadau'r rhwydweithiau hyn ar agor i staff neu wirfoddolwyr unrhyw sefydliad trydydd sector. Gallwch ddarganfod mwy am Rwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol PAVO a sut i ddod yn aelod yma

Hefyd mae PAVO yn cefnogi cynrychiolwyr dinasyddion a Thrydydd Sector ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys a llawer o grwpiau cynllunio strategol lleol eraill.

I ddysgu mwy am waith PAVO ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a sut gallwn  helpu eich sefydliad gwirfoddol neu grŵp cymunedol, cysylltwch â ni.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity