Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn darparu gwasanaethau hanfodol er mwyn cefnogi sefydliadau trydydd sector ac i wella bywydau pobl.
Bod yn GATALYDD ar gyfer gweithredu cymunedol trwy alluogi arloesi, cefnogi gwirfoddolwyr a helpu sefydliadau Trydydd Sector i redeg mewn ffordd effeithiol, cyflenwi gwasanaethau o ansawdd a bod yn gynaliadwy er mwyn:
Bod yn LLAIS ar ran mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol er mwyn cyfleu barn a dylanwadu ar lunio polisïau, cynllunio gwasanaethau i sicrhau y caiff barn a phrofiadau unigolion a chymunedau eu clywed a'u deall gan unigolion sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn:
Bod yn GANOLBWYNT gwybodaeth hanfodol ac adnoddau ar gyfer sefydliadau Trydydd Sector, er mwyn:
Sicrhau taw SEFYDLIAD yw sy’n addas i’w bwrpas, ac yn y sefyllfa gorau posib i:-
Mae PAVO wedi ymrwymo i werthfawrogi pob unigolyn a sefydliad, ac i barchu eu teimladau, hawliau a dymuniadau.
Mae PAVO wedi ymrwymo i drin pobl mewn ffordd gydradd, yn arbennig o ran statws, hawliau a chyfleoedd.
Mae PAVO wedi ymrwymo i gefnogi amrywiaeth a gwahaniaeth fel ffynhonnell cyfoethogi.
Mae PAVO wedi ymrwymo i gysondeb ac undod o ran ei ffordd o ymddwyn.
Mae PAVO wedi ymrwymo i fod yn ddidwyll, yn onest ac yn rhydd rhag twyll.
Mae PAVO wedi ymrwymo i wrando ar ein gilydd, wrth gydweithio i sicrhau canlyniadau buddiol i’r naill a’r llall.
Mae PAVO wedi ymrwymo i wneud yr hyn rydym yn ei addo, ac yn ymdrechu ar gyfer yr ansawdd gorau posib ym mhopeth a wnawn.
Mae PAVO wedi ymrwymo i ddysgu’n barhaus, i drawsnewid ein sefydliad trwy wybodaeth, galluedd a mentergarwch ein gweithlu, partneriaid ac eraill.