Legal information

The PAVO website is maintained for your personal use and viewing.

Access and use by you of this site constitutes acceptance by you of these terms and conditions that take effect from the date of your first use.

Content disclaimer

All information is provided as part of the service we offer at this website. However, PAVO cannot accept any liability for its accuracy or content. You rely on this information at your own risk.

 

Datganiad Iaith Gymraeg

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn ymdrechu i drin y Gymraeg yn gydradd â’r Saesneg o ran cynnal ei fusnes cyhoeddus. Yn unol â’r polisi hwn, cyhoeddir yr holl destun craidd ar y wefan yn y ddwy iaith.

[Translate to Welsh:] Page Linking policy

Linking to the PAVO web site:

  • you are welcome to link directly to our PAVO site pages
  • the pages must open fully in the user’s browser
  • the pages must not open within any frame or subpage of an external site
  • you must not link to individual content on the pages of this site
  • if there is specific content you would like to host on your own site please contact us to discuss the matter.

[Translate to Welsh:] Linking from the PAVO web site:

[Translate to Welsh:]

  • PAVO is not responsible for the content or reliability of external websites and we have no control over the availability of external links
  • use of external links should not be taken as an endorsement of any kind.

Hysbysiad Preifatrwydd PAVO Mai 2018

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) wedi ymrwymo i barchu a diogelu hawliau preifatrwydd unigolion.

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro pryd a pham fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol am unigolion, gan gynnwys y rhai sy’n ymweld â gwefan PAVO, defnyddwyr ein gwasanaethau, y bobl a’r sefydliadau rydym yn cydweithio â nhw i gyflenwi gwasanaethau, gan gynnwys cyllidwyr, a’r sawl sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau inni. Hefyd mae’n eich hysbysu ynghylch sut a pham fyddwn yn defnyddio’r data yma, yr amodau o ran ei ddatgelu i eraill, a sut byddwn yn ei gadw’n ddiogel.

Hwyrach y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro, felly dylid gwirio’r dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau.  Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i lynu wrth yr hysbysiad hwn.  

Dylid e-bostio unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad hwn a’n harferion preifatrwydd at: angela.owen@pavo.org.uk neu gellir ysgrifennu at: PAVO, 30 Heol Ddole, Llandrindod, Powys, LD1 6DF.  Fel arall, gellir ffonio 01597 822191.

Pwy ydym ni?

PAVO yw cyngor gwirfoddol sirol Powys. Ein cenhadaeth yw Helpu Sefydliadau a Gwella Bywydau Pobl.  Un o 19 o sefydliadau sy’n bartneriaid Cymorth Trydydd Sector Cymru (TSSW) ydym, sef rhwydwaith cenedlaethol o gyrff seilwaith y trydydd sector ar draws Cymru, sy’n gweithio ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol i gyflenwi Trydydd Sector Cynaliadwy, Llewyrchus, Dulliau Llywodraethu Da, Gwirfoddoli a Dylanwadu ac Ymgysylltiad Strategol.

Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu amdanoch, sut a pham, a gyda phwy fyddwn yn ei rhannu?

Gweler isod manylion ynghylch sut byddwn yn casglu ac yn defnyddio data personol mewn amgylchiadau amrywiol.  Ar gyfer pob categori, rydym yn olrhain y diben neu ddibenion cyfreithiol o ran prosesu gwybodaeth; ni fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth i gysylltu â nhw am unrhyw reswm arall. 

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mor bell â’i fod yn angenrheidiol i gyflawni’r rheswm dros ei chasglu.  Bydd hyn yn amrywio yn ddibynnol ar y sefyllfa, ond unwaith na fydd ei hangen at y diben hwnnw, byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth bersonol.

Ymwelwyr â’n gwefan

Pan fydd rhywun yn ymweld â www.pavo.org.uk rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth mewngofnodi safonol a manylion eich patrymau ymddygiad fel ymwelydd, i ddysgu pethau megis nifer y bobl sy’n ymweld ag adrannau amrywiol y wefan. Nid yw’r ffordd y prosesir yr wybodaeth yma’n adnabod unrhyw un. Ni fyddwn yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan.

Os byddwn am gasglu gwybodaeth i adnabod unigolion trwy ein gwefan, rydym yn gwneud hyn yn amlwg, a chi fydd yn darparu’r wybodaeth.  Rydym yn egluro hyn wrth gasglu gwybodaeth bersonol gennych, a byddwn yn egluro beth fyddwn yn ei wneud gyda’r wybodaeth.

Ymgeiswyr am Swyddi

Byddwn yn llunio rhestr fer ar gyfer unrhyw swyddi trwy ddefnyddio gwybodaeth ddienw, a byddwn ond yn defnyddio eich manylion cyswllt ar ôl cwblhau’r broses honno, i’ch hysbysu a fyddwch yn cael cyfweliad ai peidio ac i’ch hysbysu am ganlyniad cyfweliad. Mae hysbysiad preifatrwydd llawn yn rhan o’r pecyn ymgeisio am swydd.

Os ydych am gwyno neu roi adborth inni

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i ymchwilio i gŵyn neu achwyniad yn unol â’n Gweithdrefnau Cwyno. Hefyd byddwn yn cadw cofnod o unrhyw gŵyn a dderbynnir a chanlyniad yr ymchwiliadau, gan gynnwys a ategwyd y gŵyn ai peidio. Mae’r cofnod hwn yn cynnwys enw’r achwynydd ond nid ei fanylion cyswllt.  Caiff y ffurflen cwyno gyda manylion cyswllt ei dinistrio blwyddyn ar ôl diwedd yr ymchwiliad, gan gynnwys unrhyw apêl. 

Rydym yn defnyddio eich adborth i wella’n gwasanaethau ac i ddangos y gwahaniaeth a wneir gan ein gwasanaethau.  Ni fyddwn yn priodoli adborth oni fyddwch wedi rhoi caniatâd penodol inni wneud hynny. Rydym yn cadw unrhyw adborth am flwyddyn ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, er mwyn gallu ei ddefnyddio at ddibenion adrodd ac i hysbysu ein cynllunio ar gyfer y flwyddyn ganlynol. 

 

Ebwletin a newyddion eraill - gwybodaeth

Cedwir holl gysylltiadau TSSW ar system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a chysylltir â nhw i weld pa wybodaeth maent am ei derbyn gennym a sut maent am ei derbyn.  Cliciwch yma am fanylion.

Os byddwch yn defnyddio ein ebwletinau, blogiau, tudalen Facebook neu gyfryngau cymdeithasol eraill trwy wefan PAVO, ni fydd angen ichi roi unrhyw ddata personol.  

 

Defnyddwyr Gwasanaethau

Gwasanaeth Cyfeillion Powys

Er mwyn cyflenwi ein gwasanaeth cyfeillion, mae angen inni gael manylion cyswllt ein gwirfoddolwyr a’n cleientiaid, er mwyn gallu paru gwirfoddolwyr gyda chleientiaid 1:1, i gadw mewn cysylltiad a threfnu gweithgareddau grŵp ac unigol. Rydym yn cadw manylion banc Gwirfoddolwyr er mwyn gallu talu treuliau (gweler Y sawl sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau’ isod).  Hefyd rydym yn cadw gwybodaeth fwy sensitif am iechyd a llesiant ac amgylchiadau personol ein cleientiaid.  Defnyddir yr wybodaeth i sicrhau ein bod yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i ddiogelu iechyd a llesiant cleientiaid, ar ffurf ddienw, i allu adrodd yn ôl i’n cyllidwyr. 

Cedwir yr holl wybodaeth yma’n ddiogel ar fas data ar weinyddwr yn yr AEE a byddwn yn ei rhannu gyda darparwr y system at ddiben gweinyddu a chynnal a chadw’r system yn unig.  Rydym yn cadw gwybodaeth bersonol mor bell â bod y cleient neu’r gwirfoddolwr dal yn weithgar gyda’r gwasanaeth, a byddwn yn ei ddileu os daw hynny i ben. 

Cysylltwyr Cymunedol

Pan atgyfeirir cleientiaid, neu pan fydd cleientiaid yn hunanatgyfeirio, at y Tîm Cysylltwyr Cymunedol, byddwn yn casglu enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a gwybodaeth berthnasol angenrheidiol er mwyn cyflenwi’r gwasanaeth.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth am iechyd a llesiant neu amgylchiadau personol cleient, pan fydd angen inni sicrhau ein bod yn gallu cyfeirio’r cleient at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol priodol.  Cedwir yr holl wybodaeth yma’n ddiogel ar fas data ar weinyddwr yn yr AEE a byddwn yn ei rhannu gyda darparwr y system at ddiben gweinyddu a chynnal a chadw’r system yn unig.

Er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posib i’n cleientiaid, byddwn yn rhannu gwybodaeth berthnasol gyda’n partneriaid ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys, i sicrhau eu bod yn cael mynediad at y gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw.  Byddwn ond yn rhannu’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i’r cleient neu os oes gofyn gwneud hynny dan y gyfraith. 

Ym mhob achos, defnyddir yr wybodaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys, sy’n gysylltiedig â gofal uniongyrchol y cleient.

Byddwn yn cadw enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn cleientiaid a manylion perthnasol am y gwasanaeth am 10 mlynedd, er mwyn gallu aros mewn cysylltiad gyda nhw.  Os nad ydym wedi cyfathrebu gyda chleient yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn dileu’r holl ddata personol sydd gennym ar ddiwedd y cyfnod hwn.

Am fwy o fanylion ynghylch sut y caiff gwybodaeth cleientiaid ei phrosesu gan Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir Powys, cliciwch yma.

 

Cyfranogiad

Rydym yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu amrywiol er mwyn i unigolion dweud eu dweud wrthym ar amrediad o faterion lleol a chenedlaethol. Byddwn yn dwyn yr adborth yma at sylw pobl briodol er mwyn ei ddefnyddio i wella ein gwasanaethau ni yn ogystal â’r gwasanaethau a ddarperir gan gyrff statudol, megis y cyngor a’r bwrdd iechyd lleol, a hefyd Llywodraeth Cymru. 

Fel arfer bydd yr adborth yn ddienw, ac ni anfonir unrhyw wybodaeth bersonol at y darparwyr gwasanaethau amrywiol fydd yn derbyn yr wybodaeth gennym. Fodd bynnag, ar adegau bydd angen inni ofyn am fanylion cyswllt neu wybodaeth bersonol arall, er enghraifft manylion bancio i allu talu treuliau cynrychiolwyr trydydd sector (gweler ‘Y sawl sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau inni’, isod), neu os byddwn yn gofyn am gyfeiriad ebost i allu cael manylion pellach er mwyn ymchwilio i bryderon a nodwyd (gweler ‘Os ydych am gwyno neu roi adborth inni’ uchod).

yn y trydydd sector a’r sectorau statudol a phreifat (cliciwch yma am fwy o fanylion)  yn ogystal ag unigolion eraill ym Mhowys.  Bydd yn cynnwys cyfeiriadau ebost gwaith, sydd yn ddata personol, ynghyd â rhai cyfeiriadau ebost personol, a manylion y cysylltiadau amrywiol gyda’r unigolion hyn, a lle bo’n berthnasol, y sefydliadau sy’n eu cyflogi. 

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i allu cyflenwi ein gwasanaethau mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.  Rydym yn adolygu’r data ar ein CRM yn rheolaidd, a byddwn yn ei ddiweddaru neu ei ddileu fel a phan fo angen.  Byddwn ond yn dosbarthu gwybodaeth farchnata uniongyrchol i gysylltiadau os oes gennym ganiatâd penodol i wneud hynny.

Ar y CRM cyffredin byddwn hefyd yn cadw manylion y sawl sy’n mynychu ein cyrsiau hyfforddi, gan gynnwys manylion yr hyfforddiant a fynychwyd ac unrhyw achrediadau a enillwyd, at ddiben monitro.  Yn achos hyfforddiant MiDAS, rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i ddarparu dogfennau cysylltiedig, i gyfleu diweddariadau mewn perthynas â MiDAS ac i fonitro a gwerthuso cynllun MiDAS.  

Pan fyddwch yn mynychu un o’n cyrsiau, gofynnir ichi lenwi ffurflen gwerthuso, fydd hefyd yn gofyn a hoffech inni gysylltu â chi eto ynghylch hyfforddiant arall a gynigir gan PAVO. Os byddwch yn cytuno inni gysylltu â chi yn hyn o beth, byddwn yn cofnodi hyn ar y  CRM.  Gallwch dynnu’r caniatâd hwn yn ôl ar unrhyw adeg trwy e-bostio training@pavo.org.uk

 

Y sawl sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau inni

Er mwyn prosesu a gwneud taliadau, mae’n rhaid inni ddefnyddio rhai neu’r holl fanylion a roddwyd inni, megis enw cyswllt a chyfeiriad ebost, cyfeiriad a manylion banc. Mewn rhai achosion gwybodaeth bersonol fydd hon.  Os taw dyna’r achos, byddwn yn prosesu’r wybodaeth yn gyfreithlon, ac mewn ffordd sy’n parchu ac yn diogelu hawl preifatrwydd yr unigolyn. Byddwn yn cadw’r holl wybodaeth yn ddiogel ar fas data ar weinyddwr yn yr AEE. Byddwn yn ei rhannu gyda darparwr y system at ddiben gweinyddu a chynnal a chadw’r system yn unig.

Rydym yn adolygu ein llyfr gwerthiant yn flynyddol ac yn dileu manylion unrhyw un sydd heb dderbyn taliad gennym o fewn y ddwy flynedd diwethaf.

Sut byddwn yn diogelu eich gwybodaeth?

Mae mesurau gweinyddol, technegol a chorfforol mewn bodolaeth, ar ein gwefan ac yn fewnol, er mwyn diogelu yn erbyn a lleihau cymaint â phosib y risg o golled, camddefnyddio neu brosesu neu ddatgelu anawdurdodedig yr wybodaeth bersonol sydd gennym.

Os caiff gwybodaeth ei chadw ar weinyddwyr, lleolir y rhain o fewn yr AEE.  Os nad dyna’r achos, byddwn yn sicrhau fod trefniadau cytundebol safonol a gymeradwyir gan y Comisiwn Ewropeaidd yn eu lle.

Eich hawliau

Fel unigolyn, mae gennych hawliau y gellir eu hymarfer mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Maent fel a ganlyn:-

  • Hawl i gael mynediad at gopi o’r wybodaeth sydd yn eich data personol
  • Hawl i wrthwynebu prosesu sy’n debygol o achosi neu sy’n achosi niwed neu drallod
  • Hawl i atal prosesu rhag marchnata uniongyrchol
  • Hawl i wrthwynebu penderfyniadau a wneir trwy ddulliau awtomatig
  • Hawl mewn amgylchiadau penodol i gywiro, atal, dileu neu ddinistrio data personol anghywir
  • Hawl i hawlio iawndal ar gyfer niwed a achoswyd gan dorri’r Ddeddf Diogelu Data.

Gellir darllen mwy am yr hawliau hyn yma 

 

 

Cwcis

O safbwynt llawer o bobl sy’n ymweld â’n gwefan, nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth.  Er hynny, pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am sicrhau eu bod yn rhwydd, defnyddiol a dibynadwy. Weithiau bydd hyn yn golygu gosod rhywfaint o wybodaeth ar eich dyfais, megis cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach a elwir cwcis.

Nid yw ein cwcis yn cynnwys unrhyw ddata sy’n benodol i’r unigolyn, felly diogelir eich preifatrwydd. Nid ydynt yn cynnwys eich cyfeiriad ebost, ac nid ydynt yn dweud wrthym pwy ydych.

Defnyddir cwcis i fonitro ein gwefan, defnydd ohoni, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr a’r tudalennau a welwyd. Hefyd rydym yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr tra byddwch ar ein gwefan, gan gynnwys:

  • Galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais fel nad oes rhaid ichi roi’r un wybodaeth yn ystod un dasg
  • Cydnabod eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair, felly nid oes rhaid eu rhoi ar gyfer pob tudalen rydych yn gofyn ei gweld

Sut gallaf atal cwcis, a beth fydd effaith gwneud hyn?

Gallwch atal defnyddio cwcis ar eich cyfrifiadur trwy ffurfweddu eich porwr i beidio eu derbyn. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y defnydd gorau o’n gwefan, bydd angen galluogi cwcis. Dylid cyfeirio at fodd chwilio ‘help’ eich porwr am wybodaeth ar sut i alluogi ac analluogi cwcis.

Os ydy cwcis ar eich system yn barod, gellir eu dileu – Am fwy o fanylion ar ddileu cwcis ewch at: http://www.aboutcookies.org.uk/managing-cookiesNoder: gall dileu cwcis penodol arwain at anawsterau wrth lywio gwefannau.

Cysylltu â ni

Os hoffech gysylltu er mwyn trafod yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, i arfer eich hawliau neu i roi adborth neu i gwyno am ddefnydd o’ch gwybodaeth dylid cysylltu ag:-

Angela Owen, Pennaeth Gwasanaethau Mewnol

PAVO, Plas Dolerw, Ffordd Milford, Y Drenewydd, Powys, SY16 2EH

angela.owen(at)pavo.org.uk

01686 626220

Hefyd gallwch gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yma: https://ico.org.uk/ am wybodaeth, cyngor neu i gofrestru cwyn.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity