Cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau a chael hwyl! Gall unrhyw un 14 oed a throsodd wirfoddoli.
Croeso i Ganolfan Gwirfoddoli Powys!

Canolfan Gwirfoddoli Powys

Canolfan Gwirfoddoli Powys yw'r porth i wirfoddoli. Rydym yn gweithio gydag unigolion, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a sefydliadau sector cyhoeddus i hyrwyddo gwaith gwirfoddol ac i gefnogi unigolion i ddod o hyd i leoliadau gwirfoddol sy'n addas i'w hanghenion.

Rydym yn dathlu a dweud diolch wrth wirfoddolwyr penigamp yn y Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys

Hoffwch ni ar Facebook
Dilynwch ni ar Twitter
Dilynwch ni ar Instagram

Beth yw gwirfoddolwr?

Unigolyn sy’n cyflawni gweithgaredd er mwyn helpu pobl eraill (ar wahân i’ch teulu) yn ddi-dâl
(er mae gwirfoddolwyr yn gallu hawlio costau teithio a threuliau cymeradwy eraill).

Mae gwirfoddolwyr yn gallu:

  • Gyrru cerbydau cynlluniau cludiant cymunedol
  • Rhedeg clybiau chwaraeon
  • Rhedeg gweithgareddau chwarae ar gyfer plant
  • Gwneud gwaith amgylcheddol yn yr awyr agored
  • Helpu mewn siop elusennol
  • Neu fod yn ymddiriedolwr sefydliad.

Mae rhestr y gweithgareddau’n ddiddiwedd. Gallwch wirfoddoli o’ch cartref yn y gymuned neu dramor.

Eisiau gwirfoddoli?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ond heb fod yn sicr beth yr hoffech ei wneud, gall y daflen wybodaeth hon helpu:

Meddwl am wirfoddoli


Dyma tair ffordd i gael hyd i’r cyfle gwirfoddol delfrydol:

  1. Cysylltwch â Chanolfan Gwirfoddoli Powys
  2. Cysylltwch ag un o'n partneriaid yn eich ardal leol
  3. Ewch i'r wefan Gwirfoddoli Cymru

1. Canolfan Gwirfoddoli Powys

Os oes angen unrhyw gefnogaeth ym maes gwirfoddoli CYSYLLTWCH Â NI

Dilynwch ni ar Facebook, Twitter ac Instagram am newyddion a chyfleoedd gwirfoddoli

2. Partneriaid Cyflenwi Lleol PAVO i weld beth sydd ar gael yn lleol

Mae Biwros a chanolfannau Cymorth Gwirfoddol ar gael mewn trefi ar draws Powys - mae PAVO yn rhoi cyllid grant iddynt i hyrwyddo arfer da ac i recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr mewn ardaloedd lleol. Gweler isod manylion cyswllt yr un agosaf atoch chi:

Biwro Gwirfoddoli Aberhonddu
99 The Struet
Aberhonddu
Powys
LD3 7LS

Gaeaf - ar agor: Mawrth - Gwener 10am-1pm

Haf: ar agor Llun – Gwener 10am-1pm

 

Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd
Bowling Green Lane
Tref-y-clawdd
Powys
LD7 1DR

Oriau agor:

Dydd Llun a Dydd Gwener: 9am - 1pm

Dydd Mawrth, Dydd Mercher and Dydd Iau: 9am - 3pm

Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Maldwyn
Swyddfa Ystâd Oldford
Oldford Rise
Y Trallwng
Powys
SY21 7SX

Ar agor: Llun – Iau 9am - 1.30pm

Hwb Cymunedol Taj Mahal
21 Stryd Penrallt
Machynlleth
Powys
SY20 5AG
Llandrindod a'r Ardal, Llanfair Ym Muallt a Sir Drefaldwyn
Canolfan Gwirfoddoli Powys
Unit 30, Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

Ar agor Llun - Iau 9am - 5pm

Gwener 9am - 4:30pm

Cymorth Cymunedol Rhaeadr Gwy a’r Ardal
The Arches
Stryd y Gorllewin
Rhaeadr Gwy
Powys
LD6 5AB

Oriau Agor: Llun - Gwener 9am-5pm

Biwro Gwirfoddolwyr Crughywel
CRIC
Stryd Beaufort
Crughywel
Powys
NP8 1BN

Oriau agor: Llun - Gwener 9am - 3pm

Ardal y Drenewydd
Ponthafren
Longbridge Street
Y Drenewydd
Powys
SY16 2DY

Ar agor Llun - Iau 9am - 5pm

Gwener 9am - 4:30pm

Biwro Gwirfoddolwyr Ystradgynlais
Old Remploy Factory
Wind Road
Ystradgynlais
Swansea
SA9 1AF

Ar agor: Llun - Gwener 9:30am - 3:00pm

3. Gwefan Gwirfoddoli Cymru

Cannoedd o gyfleoedd gwirfoddol ym Mhowys https://powys.volunteering-wales.net/

Gwirfoddoli ar-lein

Ydych chi’n chwilio am gyfle gwirfoddoli hyblyg y gellir ei wneud o unrhyw le?  Mae llwyth o ffyrdd i allu rhoi’ch amser trwy’r rhyngrwyd oddi cartref, neu unrhyw le arall gallwch fynd ar-lein.

I chwilio am gyfleoedd gwirfoddol ar-lein gyda sefydliadau yng Nghymru, gallwch ddefnyddio’r opsiynau chwilio estynedig ar wefan Gwirfoddoli Cymru  i chwilio am gyfleoedd a ‘Leolir Gartref’. Wrth gwrs, gall gwirfoddoli ar-lein hefyd olygu y gallwch helpu sefydliadau ar draws y byd. Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd rhyngwladol, ewch i wefan Gwirfoddoli Ar-lein y Cenhedloedd Unedig.

Medrwch hefyd ymuno â'r grŵp facebook Gwirfoddolwyr Ar-lein Powys i sgwrsio â gwirfoddolwyr eraill a chael gwybod am gyfleoedd.

Gwirfoddolwyr ifainc - 14 – 25 oed

Mae 4,200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ym Mhowys, ac mae rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys y celfyddydau a drama; dawns a cherddoriaeth; iechyd a gofal cymdeithasol; siopau elusennol; chwaraeon amatur, yr amgylchedd a chadwraeth.

Hwyrach eich bod chi eisoes yn gwirfoddoli, er enghraifft, trwy godi arian ar gyfer Ffermwyr Ifainc, Plant mewn Angen neu Comic Relief; fel arweinydd ieuenctid gyda’r Sgowtiaid, y Geidiau neu’r Cadéts; neu drwy hyfforddi plant iau.

Mae llwyth o syniadau a lleoliadau gwirfoddol ar nifer o wefannau:

Gwirfoddoli Cymru - mae cannoedd o gyfleoedd ym Mhowys.  Defnyddiwch eich cod post i ddysgu mwy. Hefyd gellir chwilio am gyfleoedd ar gyfer oedrannau penodol:  powys.volunteering-wales.net

Gwirfoddolwyr Cefnogi Ysbytai

Hoffech chi wirfoddoli mewn ysbyty? Ydych chi chwaraewr tîm, gyda sgiliau cyfathrebu da a thosturi? Gallech fod yn wirfoddolwr cymorth ysbyty!

CLICIWCH YMA AM FWY O WYBODAETH

Swnio'n ddiddorol?

Cysylltwch â’ch canolfan gwirfoddoli lleol neu gellir cofrestru ar-lein trwy

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity