Menter Ardaloedd Powys

Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar waith hyd yma i ddatblygu'r 13 Rhwydwaith Ardal fel fforymau sy'n meithrin gallu trigolion i gynllunio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau sy'n hybu bywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd cymunedau Powys.

Ymunwch â'r drafodaeth yn eich ardal

Ewch i'n tudalen ar wefan Dweud Eich Dweud Powys i gynnig syniadau ar gyfer eich cymuned, ychwanegu eich sylwadau at syniadau pobl eraill, cynnig eich cefnogaeth neu ofyn cwestiynau amdanynt, ac i gael gwybod am y prosiectau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan y Fenter Ardaloedd.

Y Cyfle

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae Covid -19 wedi cael effaith enfawr. Mae wedi cael effaith ar bob un ohonom ar lefel bersonol, ac wedi dinistrio clybiau, gweithgareddau a gwasanaethau sy’n rhan sylfaenol o fywyd cymunedol. Fel rhan o’r broses o ‘ail-adeiladu’n well’, mae’r Fenter Ardaloedd yn gyfle i ofyn cwestiynau am yr hyn sydd ei angen ar ein cymunedau i sicrhau eu bod yn iach, yn gefnogol, ac yn fannau cyfoethog ac amrywiol i fyw a gweithio ynddynt, nawr ac yn y dyfodol.

Rhwydweithiau Ardal

Mae’r Fenter Ardaloedd yn gweithio ar draws 13 o Rwydweithiau Ardal ledled Powys. Sefydlwyd y rhwydweithiau hyn er mwyn darparu fforwm ar gyfer trafodaethau ynghylch anghenion lleol ac i hyrwyddo cydweithio wrth ddatblygu gwasanaethau sy’n bodloni’r anghenion hynny. Mae’r Fenter Ardaloedd yn awyddus i ategu gwaith presennol y Rhwydweithiau trwy gyfranogiad gan ddarparwyr iechyd a llesiant lleol sy’n bodoli eisoes, cynghorau cymuned, a’r clybiau a’r sefydliadau sydd wrth galon y gymuned.

 

Mae’r 13 Ardal fel a ganlyn:
  • Llanfyllin
  • Aberhonddu
  • Y Trallwng a Threfaldwyn
  • Y Drenewydd
  • Llanfair Caereinion
  • Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd
  • Llanidloes
  • Crughywel
  • Llandrindod a Rhaeadr Gwy
  • Machynlleth
  • Y Gelli Gandryll a Thalgarth
  • Tref-y-clawdd a Llanandras
  • Ystradgynlais

Noder: Er bod yr ardaloedd yn gysylltiedig â threfi marchnad bob ardal, nod y Rhwydweithiau yw annog cyfranogiad ar draws cymunedau trefol a gwledig.

Achub y Blaen:

Diben y Fenter Ardaloedd yw paru syniadau a blaenoriaethau lleol gyda chyllid gwerth £260,000 ar draws y 13 Rhwydwaith Ardal. Bydd y cyllid yn galluogi cymunedau i flaenoriaethu buddsoddiad cychwynnol mewn prosiectau sy’n meithrin capasiti lleol, datgloi potensial ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, a mynd i’r afael â rhwystrau o ran cyfranogiad. Ar lefel ymarferol gall hyn olygu:

  •  cynlluniau busnes ac astudiaethau dichonoldeb,
  •  cynlluniau peilot byr i brofi cysyniad,
  •  sefydlu strwythurau datblygu cydweithredol newydd / mentrau cymdeithasol i gyflenwi gwasanaethau iechyd a llesiant lleol
  •  manteisio i’r eithaf ar botensial technoleg ddigidol cymunedau ac adeiladau cymunedol
  •  sefydlu cyfleoedd gwirfoddoli newydd
  •  datblygu cynlluniau a gweithgareddau gyda’r nod o bontio at economi carbon isel (tyfu cymunedol, coetiroedd, ailgylchu, trafnidiaeth).

Trwy baru syniadau i ddiwallu anghenion lleol â chyllid cychwynnol, trwy ymchwilio i ddulliau gwaith newydd a thrwy feithrin capasiti ar gyfer datblygiadau’r dyfodol, mae’r Fenter Ardaloedd yn cynnig cyfle gwych i gicdanio’r broses o adfer a meithrin gwydnwch cymunedau o ran heriau’r dyfodol, ble bynnag rydym yn byw ym Mhowys.

Sut i gymryd rhan

Peidiwch â cholli’r cyfle. Os nad oes gan eich sefydliad cymunedol, eich cyngor cymuned neu sector busnes gynrychiolaeth ar Rwydwaith Ardal ar hyn o bryd – gallwch achub y blaen a chysylltu â ni heddiw.

Os oes gennych syniad yr hoffech ei gynnig ar gyfer eich ardal leol, gallwch anfon y manylion atom trwy lenwi'r ffurflen hon:

https://forms.gle/9ExW1Q3oS1hMmp4h8

Nid cais grant yw’r ffurflen hon; yn syml iawn, ei diben yw casglu gwybodaeth ar gynigion prosiect ar draws yr 13 o rwydweithiau ardal. Bydd pob cynnig prosiect yn destun trafodaethau bellach a phroses blaenoriaethu o ran cymorth o fewn pob rhwydwaith ardal lleol.


Cyllidir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â Nick Venti

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity