Meddwl am ddod yn ymddiriedolwr?

Ydych chi'n ystyried dod yn ymddiriedolwr neu ymuno â phwyllgor sefydliad elusennol? Dechreuwch yma i gael teimlad o rôl ymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgorau yn y trydydd sector.

[Translate to Welsh:] Photos of trustees from around Powys

Beth yw ymddiriedolwr?

Mae ymddiriedolwyr yn rheoli elusen ac yn gyfrifol am sicrhau ei bod yn gwneud yr hyn y cafodd ei sefydlu i’w wneud.

Gall fod teitlau eraill ganddynt, megis:

  • cyfarwyddwyr
  • aelodau bwrdd
  • llywodraethwyr
  • aelodau pwyllgor

Beth bynnag y cânt eu galw, ymddiriedolwyr yw’r bobl sy’n arwain yr elusen ac yn penderfynu sut y caiff ei rhedeg. Mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith ar fywydau pobl. Yn dibynnu ar yr hyn y mae’r elusen yn ei wneud, byddwch yn gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned leol neu i gymdeithas gyfan. Bydd ymddiriedolwyr yn defnyddio eu sgiliau a’u profiad i gynorthwyo eu helusennau, gan eu helpu i gyflawni eu nodau. Bydd ymddiriedolwyr yn dysgu sgiliau newydd hefyd yn aml tra byddant ar y bwrdd.

Daw'r diffiniad hwn o wefan Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr. Gallwch ddarllen mwy o fanylion yma. 

Mae gan ymddiriedolwyr chwe phrif ddyletswydd:
  • Gwneud yn siŵr bod eu helusen yn cyflawni ei dibenion er budd cyhoeddus
  • Cydymffurfio â dogfen lywodraethol eu helusen ay gyfraith
  • Gweithredu er lles gorau eu helusen
  • Rheoli adnoddau eu helusen mewn modd cyfrifol
  • Gweithredu gyda gofal a sgil rhesymol
  • Sicrhau bodd eu helusen yn atebol

Chi hefyd yn gallu darllen mwy o fanylion am y rhain ar wefan y Comisiwn Elusennau.

Pam dod yn ymddiriedolwr?

Ydych chi:

  • eisiau gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned?
  • yn teimlo’n angerddol dros achos penodol?
  • yn meddu ar sgil neu wybodaeth benodol a allai fod o fudd i eraill?
  • eisiau ennill sgiliau a gwybodaeth newydd gan eraill?
  • eisiau gwella'ch CV?

Mae miloedd o bobl yn Powys yn gwirfoddoli eu hamser yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol lleol fel ymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor. Yn y clipiau fideo byr hyn, mae rhai ohonyn nhw'n siarad am eu rhesymau dros gymryd rhan, a'r hyn maen nhw'n ei gael o fod yn ymddiriedolwr.

Sut beth yw’r rôl ymddiriedolwr?

Yn y clip hirach hwn, mae ymddiriedolwr o Powys Samaritans yn siarad am ei brofiadau yn y rôl ac yn rhoi rhywfaint o gyngor i ddarpar ymddiriedolwyr yn y dyfodol.

Cefnogaeth i ymddiriedolwyr newydd

Anfonir pecyn croeso ymddiriedolwyr elusennol y Comisiwn Elusennau at ymddiriedolwyr newydd elusennau cofrestredig ac mae hefyd yn berthnasol i ymddiriedolwyr newydd mathau eraill o sefydliadau elusennol.

Mae PAVO yn cynnig cefnogaeth i ymddiriedolwyr newydd a phrofiadol ar ffurf hyfforddiant a chyngor. Am fanylion gweler 'Adnoddau i ymddiriedolwyr'

 

I ddarganfod mwy

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn ymddiriedolwr ac angen mwy o wybodaeth neu gefnogaeth arnoch chi, cysylltwch â ni.
01597 822191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity