Cynhelir cyfarfod nesaf yr is-grŵp cymuned ymarfer rhieni/gofalwyr ar-lein ar 25 Mehefin 2024. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma: 25 Mehefin 2024 1:30-2:30pm Cyfarfod Is-grŵp Rhieni a Gofalwyr (2) (office.com)
Pwrpas yr Is-grŵp Rhieni/Gofalwyr:
Dylanwadu ar Gymuned Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu: Mae trafodaethau'r is-grŵp yn ffordd o ddweud eich dweud, rhannu syniadau, llunio agweddau ar yr agenda a dylanwadu ar y gymuned ymarfer ehangach.
Darparu Man Diogel: Mae angen i’r is-grŵp greu amgylchedd diogel lle gall rhieni/gofalwyr rannu eu profiadau a’u barn yn agored. Sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel yn seicolegol ac yn annog sgyrsiau ystyrlon.
Adlewyrchu Safbwyntiau Rhieni/Gofalwyr: Mae'n hanfodol cynrychioli barn rhieni/gofalwyr yn gywir yn y grŵp proffesiynol mwy. Trwy wrando arnynt, a rhoi llais iddynt, rydym yn gwneud ein mentrau yn rhai a gyd-gynhyrchir, ac sy’n fwy cynhwysol a pherthnasol.
Cynnig adborth: Gan ddefnyddio offer fel crynodebau uwch a mewnwelediadau gan gyd- gadeiryddion, gallwn ddarparu adborth defnyddiol i’r brif Gymuned Ymarfer (CoP) a Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Anabledd Dysgu (LDMAG), ac arweinwyr polisi anabledd dysgu yn Llywodraeth Cymru.
Cymryd rhan mewn Ffurfio Polisi: Mae rhoi cyfle i rieni/gofalwyr ymateb i fentrau sy’n destun ymgynghoriad yn meithrin cyd-werthuso a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Mae hyn yn sicrhau bod ein polisïau a'n harferion yn y dyfodol yn diwallu anghenion a dewisiadau'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.
Ynghlwm grynodeb o gofnodion cyfarfod cyntaf yr is-grŵp ar 13 Mawrth 2024. Mae’r rhain hefyd ar gael ar y padlet:Grŵp Rhieni a Gofalwyr (padlet.com)