Partneriaeth Anableddau

Is-bartneriaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r Bartneriaeth Anableddau.

Swyddogaeth

Mae’r Bartneriaeth Anableddau’n gyfrifol am ddatblygu gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i atgyfnerthu a thrawsnewid gwasanaethau ar gyfer pobl ym Mhowys sydd ag anableddau fel yr amlinellir yn y Strategaeth Iechyd a Gofal. Yn benodol i wella llesiant pobl gydag anableddau a helpu sicrhau fod pobl yn aros yn annibynnol mor hir ag sy’n bosib.

Mae’r bartneriaeth hefyd yn rhedeg nifer o is-grwpiau sy’n cynnwys gwasanaethau Trydydd Sector yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau. Maent fel a ganlyn:

  • Fforwm Ymgysylltiad Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau (PDSL)
  • Fforwm Ymgysylltiad Anableddau Dysgu
  • Colli Clyw a Cholli Golwg

Aelodaeth

  • Cyngor Sir Powys
  • Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys
  • PAVO

Ar hyn o bryd mae’r trefniadau i gynnwys pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr yn cael eu datblygu.

Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:

Freda Lacey (Uwch Swyddog Iechyd a Llesiant PAVO)

Amserlen cyfarfod: bob deufis.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity