Mae effaith Coronafeirws wedi golygu bod llawer iawn o fudiadau wedi gorfod ymateb yn gyflym ac yn ddigidol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae wedi dangos bod gwasanaethau dwyieithog mor bwysig ag erioed. Maer Cynnig Rhagweithiol am ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod ofyn amdano. Mae’r prosiect Cynnig Rhagweithiol yn gallu helpu chi a’ch mudiad i ddarparu mwy o’ch gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg PAVO wedi datblygu dull cam wrth gam i’ch cefnogi chi gyrraedd eich potensial drwy gynllunio’n weithredol. I dderbyn y gefnogaeth hon, llenwch y ffurflen gais:
Y Pecyn Gwybodaeth Cynnig Rhagweithiol yw'r adnodd cyntaf sydd ar gael yn y Pecyn Deunyddiau'r Cynnig Rhagweithiol.
Dyma'r cyntaf mewn cyfres o fideos sy'n disgrifio defnydd adnoddau'r pecynnau cymorth.
Mae'r Pecyn Gwybodaeth ar gael i'w lawrlwytho am ddim yma: https://bit.ly/GwefanCRh
I sbïo ar y fideo, ewch i: https://www.facebook.com/AOPowysCRh/videos/486857529139271