Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i roi gofal a chymorth i'r rheini sydd fwyaf bregus yn ein cymunedau.
Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r bobl iawn i lenwi eich swyddi gwag a chefnogi eich busnes, rydym yn creu porthol swyddi a fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.
Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i chi gyhoeddi eich swyddi gwag ar Twitter o’ch sianeli chi, gan gynnwys y manylion canlynol:
• Teitl y swydd
• Awrdurdod lleol (os yw'r rôl yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, rhestrwch nhw)
• Disgrifiad byr o'r rôl
• Rhaid iddo gynnwys hashnod: #SwyddiGofalwnCymru
Facebook: @GofalwnCymru
Instagram: @GofalwnCymruCares
Twitter: @GofalwnCymru