Bydd y rhaglen atgyfnerthu, sydd bellach wedi dechrau, yn helpu i wella amddiffyniad yn y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o haint difrifol o COVID-19. Y grwpiau blaenoriaeth yw:
- Y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion hŷn
- Pob oedolyn 50 oed a throsodd
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pobl 16-49 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n golygu eu bod yn wynebu risg uwch o COVID-19, a gofalwyr sy'n oedolion
- Oedolion (16 oed a throsodd) sy'n byw gydag unigolion â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin
Os ydych yn gymwys i gael dos atgyfnerthu o'r brechlyn, arhoswch i gael eich gwahodd. Bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi pan fydd eich tro chi. Peidiwch â chysylltu â'ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiadau brechu COVID-19.
Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol o COVID-19, ac anogir pob oedolyn cymwys i fanteisio ar y cynnig i gael brechlyn atgyfnerthu i gadw eu hunain yn ddiogel y gaeaf hwn.