Y Cyfle
Beth sydd ei angen arnom yn ein cymunedau?
I’w gwneud yn iach
Lleoedd cefnogol, cyfoethog ac amrywiol i fyw ac i weithio
Nawr ac yn y dyfodol
Rhwydweithiau Ardal
Mae yna 13 Rhywdwaith Ardal ym Mhowys sy’n cael eu redeg gan y Cysylltwyr Cymunedol o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Maent yn fforymau i drafod anghenion i drafod anghenion ac i hybu cydweithio wrth ddatblygu gwasanaethau sy’n bodloni’r anghenion hynny.
Mae’r 13 Ardal fel a ganlyn:
Llanfyllin | Aberhonddu | Y Trallwng a Threfaldwyn |
Y Drenewydd | Llanfair Caereinion | Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd |
Llanidloes | Crughywel | Llandrindod a Rhaeadr Gwy |
Machynlleth | Y Gelli Gandryll a Thalgarth | Tref-y-clawdd a Llanandras |
Ystradgynlais |
Achub y Blaen:
Mae’r Fenter Ardaloedd Lleol eisiau cysylltu syniadau a blaenoriaethau lleol gyda chwstrelliad o £260,000 ar draws Powys. Bydd y cyllid hwn yn galluogi cymunedau i flaenoriaethu buddsoddiad cychwynnol mewn prosiectau sy'n meithrin gallu lleol, yn datgloi potensial datblygu yn y dyfodol ac yn lleihau rhwystrau i gyfranogiad.
cynlluniau busnes ac astudiaethau dichonoldeb,
cynlluniau peilot byr i brofi cysyniad,
sefydlu strwythurau datblygu cydweithredol newydd / mentrau cymdeithasol i gyflenwi gwasanaethau iechyd a llesiant lleol
manteisio i’r eithaf ar botensial technoleg ddigidol cymunedau ac adeiladau cymunedol
sefydlu cyfleoedd gwirfoddoli newydd
datblygu cynlluniau a gweithgareddau gyda’r nod o bontio at economi carbon isel (tyfu cymunedol, coetiroedd, ailgylchu, trafnidiaeth).
Mae'r Fenter Ardaloedd Lleol yn rhoi cyfle gwych i roi hwb i'r broses o adferiad a meithrin cydnerthedd cymunedol i heriau'r dyfodol ar draws Powys.
Os nad yw eich sefydliad cymunedol lleol, cyngor cymuned neu sector busnes yn cael ei gynrychioli ar Rwydwaith Ardal ar hyn o bryd - yna cysylltwch â ni heddiw.
‘Cyllidir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.’
Cysylltiadau Prosiect PAVO
Nick Venti; nick.venti(at)pavo.org.uk
Mike Entwisle; De Powys; michael.entwisle(at)pavo.org.uk
Graham Evans; Canolbarth a Gogledd Powys; graham.evans(at)pavo.org.uk
Cysylltiadau Newid Hinsawdd Powys: Flo Greaves, flo.greaves(at)pavo.org.uk Diana Allen diana.allen(at)pavo.org.uk