Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio set newydd o ganllawiau syml, hawdd eu deall er mwyn cynorthwyo ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau yn unol â’r gyfraith.

Mae’r canllawiau newydd yn cynnwys pum agwedd allweddol ar reoli elusennau sy’n cwmpasu’r agweddau sylfaenol y byddai’r rheoleiddiwr yn disgwyl i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio set newydd o ganllawiau syml, hawdd eu deall er mwyn cynorthwyo ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau yn unol â’r gyfraith.

Mae’r canllawiau newydd yn cynnwys pum agwedd allweddol ar reoli elusennau sy’n cwmpasu’r agweddau sylfaenol y byddai’r rheoleiddiwr yn disgwyl i ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Maent yn egluro egwyddorion sylfaenol:

Dywed y Comisiwn y bydd y canllawiau hyn ar lefel mynediad yn ei gwneud yn haws ac yn gynt i bob ymddiriedolwr wirio’r hyn sy’n ddisgwyliedig ac i ganfod gwybodaeth fanylach os oes angen, sy’n fwyfwy pwysig wrth i elusennau ymateb i bandemig Covid-19. Bu’r ffaith i’r Comisiwn ymchwilio a phrofi gydag ymddiriedolwyr o gymorth wrth gynllunio a chreu cynnwys i’r canllawiau.

Pwysleisia’r Comisiwn bod y canllawiau, er yn sylfaenol, wedi’u cynllunio i ateb gofynion ymddiriedolwyr profiadol a’r rheini sy’n newydd i’r rôl. Dywed na all blynyddoedd o brofiad warchod hyd yn oed yr ymddiriedolwyr gorau rhag cwestiynau neu broblemau.

Mae’r canllawiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Argymhellion ar gyfer defnyddio’r canllawiau

Byddem yn argymell eich bod yn rhannu’r canllawiau hyn â’ch ymddiriedolwyr ac yn eu cynnwys yn eich pecynnau cynefino pan fydd ymddiriedolwyr newydd yn ymuno â’r elusen.

  • Efallai y gallech gynnwys un canllaw ar yr agenda mewn cyfarfodydd ymddiriedolwyr a gofyn i’r bwrdd drafod pob un ac ystyried a yw llywodraethiant yr elusen yn adlewyrchu’r hyn a nodir.
  • Beth am ymuno â’n gweminar Llywodraethu Elusennau i gael gwybod mwy ynglŷn â’r newyddion a’r diweddariadau diweddaraf i ymddiriedolwyr?
  • Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru, lle gallwch ddysgu a chysylltu ag eraill tebyg i chi ar draws y trydydd sector?

Y Comisiwn Elusennau, Canllawiau Coronafeirws (COVID-19) i’r Sector Elusennau (Saesneg yn unig)

Yn ôl at newyddion

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity