Mae’n bleser gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian gyhoeddi y bydd cronfa grantiau untro ar gael i gynorthwyo cymunedau ar hyd y rheilffordd
Gweinyddir y cynllun gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), ac fe’i ddarparir mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO), Mantell Gwynedd, RCC Swydd Amwythig a PAVO.
Gellir defnyddio’r grant i gyflawni prosiectau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws neu beidio.
Nid oes yn rhaid defnyddio’r grant i dalu costau’r prosiect, a gellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg, gan gynnwys staff, biliau, rhent neu waith cynnal a chadw, ar yr amod y gellir dangos nad oes modd talu’r costau hyn mewn ffordd arall, ac y bydd hyn yn helpu’r sefydliad i barhau i fod yn weithgar ac yn gynaliadwy.
Gall pob sefydliad wneud cais am uchafswm o £500 yr un.
Gall unrhyw sefydliad cymunedol, elusen, CIC neu grŵp sy’n meddu ar gyfrif banc ac sydd wedi’u lleoli o fewn 10 milltir/16 cilomedr i un o Orsafoedd Rheilffyrdd y Cambrian wneud cais. Os nad yw’r sefydliad wedi’i leoli o fewn yr ardal hon, ond mae’n gallu dangos y bydd y grant yn cynorthwyo cymuned sydd wedi’i lleoli yn yr ardal hon, bydd hynny’n dderbyniol.
Dywedodd Stuart Williams, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian:
“Wrth i ni gamu i 2021 gyda gobaith o’r newydd y bydd effeithiau Covid 19 yn lleihau’n raddol, hoffem ymgysylltu gyda’r grwpiau cymunedol ar hyd ein Rheilffordd hanesyddol, a’u helpu i ffynnu a dod yn fwy cydnerth. Ar gyfer grwpiau llai, gall y broses o fanteisio ar gyllid fod yn un hirfaith ac anaddas, felly nod ein Cronfa Cymorth Cymunedol ni yw cynnig mynediad cyflym a hawdd i grantiau cymharol fach er mwyn cynnig manteision cyflym i’r sefydliadau hyn.”