.
Gallai gweld dinasyddion yr UE yn gadael y DU gael effaith sylweddol ar gymunedau a gweithleoedd Cymru, ac felly mae angen inni godi ymwybyddiaeth am hawliau dinasyddion a'u helpu i aros yma.
Gall dinasyddion yr UE a'u teuluoedd sydd wedi bod yn preswylio'n barhaus yn y DU am bum mlynedd tan 31 Rhagfyr 2020 wneud cais am statws preswylydd sefydlog drwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog y DU i Ddinasyddion yr UE. Byddant yn parhau i allu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau yn y DU ar yr un sail ag yn awr. Bydd y rhai nad ydynt wedi bod yn preswylio'n barhaus am bum mlynedd yn gymwys am statws preswylydd cyn-sefydlog. Byddant hefyd yn gallu gweithio, astudio a chael buddion a gwasanaethau ar yr un sail ag yn awr.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gyngor a chymorth cyfreithiol rhad ac am ddim i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.
Mae'r pecyn cefnogaeth hwn yn:
• Cynnig cymorth gyda cheisiadau a rhoi cyngor ar faterion lles a hawliau yn y gweithle drwy rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru;
• Darparu gwasanaeth cynghori ar fewnfudo sy'n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, drwy gwmni cyfreithiol sy'n arbenigwyr ar fewnfudo, Newfields Law;
• Cynyddu'r ddarpariaeth o ganolfannau cymorth digidol yng Nghymru – i helpu'r rhai heb fynediad at dechnoleg ddigidol i wneud cais am statws preswylydd sefydlog;
• Gweithio gydag amryw o elusennau a phartneriaid ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r angen i wneud cais am statws preswylydd sefydlog mewn cymunedau anodd cyrraedd atynt ac agored i niwed.
Mae gwefan Paratoi Cymru yn rhoi darlun clir o'r gwasanaethau cyngor am ddim sydd ar gael yng Nghymru. Ewch i https://llyw.cymru/paratoi-cymru/dinasyddion-yr-ue. Y dyddiad olaf ar gyfer ymgeisio yw 30 Mehefin 2021.