Mae’r llinell gymorth llesiant ar gael i unrhyw un sy’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol sydd efallai’n teimlo’n bryderus, dan straen neu wedi’i orlethu, neu dim ond angen siarad am bethau ar ôl shifft brysur neu ddiwrnod hir yn y gwaith.
Mae’n bwysicach nag erioed inni barhau i edrych ar ôl ein hunain, er mwyn gallu parhau i ofalu am eraill.
Caiff yr holl alwadau eu hateb gan wirfoddolwyr y Samariaid, sydd wedi’u hyfforddi i wrando heb
farnu ac i gynnig cymorth emosiynol.
Bydd y llinell gymorth ar agor bob dydd rhwng 7am a 11pm,gan gynnig cymorth yn Saesneg.
Bydd llinell gymorth Cymraeg hefyd ar gael bob nos rhwng 7pm a11pm.
Mae’r llinell wedi’i bwriadu i helpu unrhyw un sy’n gweithio yn y GIG neu ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i brosesu eu profiadau yn ystod cyfnod pan maent yn gweithio o dan bwysau cynyddol ac yn ymaddasu i amgylchiadau anodd. Mae’n canolbwyntio ar greu lle diogel iddynt rannu eu teimladau a siarad am eu profiadau.
Manylion llinell gymorth llesiant gweithwyr GIG Cymru a gofal cymdeithasol:
Gellir ffonio’r llinell gymorth Saesneg i weithwyr a gwirfoddolwyr y GIG a gofal cymdeithasol yn ddi-
dâl, ac mae ar gael bob dydd rhwng 7am ac 11pm ar
08004 840 555
Gellir ffonio’r llinell gymorth Cymraeg i weithwyr a gwirfoddolwyr y GIG a gofal cymdeithasol yn ddi-
dâl, ac mae ar gael bob nos rhwng 7pm ac 11pm ar