Gadael Neb as Ol

Gallwch weld cyhoeddiad diweddar Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yma

Rhagair

Drwy gydol y pandemig rwyf wedi bod yn siarad gyda ac yn gwrando ar bobl hŷn, gofalwyr, mudiadau cymunedol, gwirfoddolwyr, gweithwyr cartrefi gofal ac eraill am eu profiadau. Mae dau beth sy’n amlygu ei hunain.

Yn gyntaf, mae llawer o bobl hŷn wedi profi amgylchiadau anodd dros ben sydd wedi gadael eu hôl, ac sydd wedi gwneud i lawer bryderu am y dyfodol ac nad ydynt eto yn ddigon hyderus i adael eu cartrefi a chrwydro o gwmpas.

Yn ail, rydym wedi gweld y gorau o bobl. Rwyf wedi clywed cymaint o storïau ysbrydoledig am bobl yn helpu ei gilydd, sut mae mudiadau cymunedol a chyrff cyhoeddus wedi ymateb yn gyflym i’r hyn oedd ei angen ac wedi bod yn greadigol wrth ganfod ffyrdd newydd o estyn allan, cysylltu a helpu.

Wrth ddisgrifio’r hyn y credaf ddylai ddigwydd nesaf, rwyf wedi dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth 16 o sesiynau ymgysylltu a gynhaliwyd â phobl hŷn a’r rhai sy’n gweithio â hwy ac sy’n eu helpu, ar hyd a lled Cymru. Buom yn trafod yr heriau, yr hyn oedd yn gweithio ac nad oedd yn gweithio, ac wedi clywed yn uniongyrchol am storïau a phrofiadau pobl hŷn o’r cyfyngiadau symud.

Rwyf yn ddiolchgar dros ben am yr amser mae pobl wedi’i neilltuo i rannu eu profiadau a’u syniadau am yr hyn ddylai ddigwydd nesaf â mi. Hoffwn ddiolch yn arbennig i ‘Margaret’ sy’n rhannu ei stori yn yr adroddiad hwn. Mae’n amlwg o’r holl drafodaethau a gafwyd bod angen gweithredu’n gyflym mewn meysydd penodol i sicrhau bod pobl hŷn sydd angen eu hamddiffyn a’u helpu yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt, yn ogystal â galluogi pobl hŷn i gyfrannu eu sgiliau, eu hegni a’u syniadau ar sut y gallwn gychwyn ar y daith sydd o’n blaenau. Ni cheir adferiad llwyddiannus heb ymgysylltu a galluogi pobl hŷn i chwarae eu rhan yn y broses honno. Rhaid inni fanteisio ar brofiad ac arbenigedd pob cenhedlaeth a chymryd y camau nesaf gyda’n gilydd.

Mae’r pandemig dychrynllyd hwn wedi amlygu’r anghydraddoldebau a’r gwahaniaethu systemig sy’n bodoli – yn enwedig yr effaith anghymesur mae’r pandemig wedi’i gael ar grwpiau penodol, fel pobl o gymunedau BAME. Mae hefyd wedi datgelu’r gwahaniaethu ar sail oedran sy’n bodoli mewn cymdeithasau ac effeithiau ofnadwy hynny ar fywydau pobl.

Yn yr adroddiad hwn rwyf yn disgrifio camau tymor byr yr wyf yn creu y mae’n rhaid inni eu cymryd yn awr ac yn ystod y tri mis nesaf, a chamau mwy tymor hir y mae’n rhaid gweithredu arnynt cyn gynted â phosibl ond a fydd yn cymryd peth amser i’w gwireddu. Byddaf yn parhau i weithredu fel y Comisiynydd Pobl Hŷn – mewn rhai achosion yn cefnogi ac yn cyfrannu at waith sy’n cael ei arwain gan eraill; yn cydweithio â sefydliadau eraill i ddod â newid, a lle bydd angen i graffu a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif am eu gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu i warchod hawliau pobl hŷn. Drwy gydol y cyfnod hwn byddaf yn parhau i ymgysylltu ac i wrando ar grwpiau ac unigolion ledled Cymru, a bydd yr hyn y byddaf yn ei wneud yn seiliedig ar brofiadau cyfoes pobl hŷn a’u syniadau a’u barn am yr hyn ddylai newid.

Mae cyfnod o ansicrwydd a heriau anodd yn ein hwynebu, a rhaid inni sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu drwy brofiadau’r misoedd diwethaf. Mae angen gwarchod hawliau pobl hŷn yn well, a lle maent wedi’u colli, rhaid eu hadfer. Rhaid gwneud yn siŵr na fydd yr allgau mae llawer o bobl hŷn wedi’i brofi a’i deimlo yn parhau. Rhaid i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid gael cefnogaeth wrth iddynt alaru, a rhaid i’r sawl sydd wedi’u gwahanu oddi wrth anwyliaid gael dod at ei gilydd unwaith eto. Wrth i gynlluniau gael eu gwneud gan y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus i symud ymlaen o’r cam hwn o’r pandemig, rhaid cael addewid na fydd ‘neb yn cael eu gadael ar ôl’. Heléna Herklots CBE Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Cliciwch yma i gael mynediad i'r adroddiad llawn:

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity