Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yng nghydberchnogaeth pedwar aelod UKVF (NCVO, Volunteer Now, Volunteer Scotland a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) i hyrwyddo arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr.
Mae partneriaid UKVF eisiau recriwtio Cadeirydd annibynnol newydd ar gyfer Panel Sicrhau Ansawdd IiV, a fydd yn sicrhau bod ansawdd yn cael ei gynnal ledled y DU ac yn adrodd ar hyn i UKVF. Penodir y Cadeirydd am dair blynedd a gall y penodiad gael ei adnewyddu am ddwy flynedd bellach drwy gytundeb ar y cyd.
Mae’r sgiliau a’r profiad hanfodol yn cynnwys:
- gwybodaeth am IiV, neu systemau sicrhau ansawdd cyfwerth;
- dealltwriaeth o wirfoddoli ac ymrwymiad i arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr;
- gallu cadeirio cyfarfodydd yn effeithiol;
- gallu bod yn wrthrychol ac yn deg wrth ddilyn a/neu arwain y broses benderfynu;
- sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm Dydd Iau 3 Chwefror 2022.
Lawrlwythwch pecyn ymgeisio yma: https://investinginvolunteers.co.uk/contact-us/vacancies/