Fe hoffai RNIB Cymru eich gwahodd chi i ddigwyddiad ar-lein i nodi lansiad ein Maniffesto ar gyfer etholiadau 2021 y Senedd, ‘Cymru heb rwystrau i bobl â cholled golwg’. Manylion y digwyddiad Dyddiad: Dydd Iau 8fed Hydref 2020 Amser: 10:30am – 11:30am Lleoliad: Zoom Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Cymraeg ar gael ar y diwrnod. Mae’r digwyddiad yn null hystings yn cael ei gynnal ar Ddiwrnod Golwg y Byd, sy’n ddiwrnod ymwybyddiaeth blynyddol er mwyn tynnu sylw at golled golwg yn fyd-eang. Bydd RNIB Cymru yn cynnal trafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o’r tair prif blaid wleidyddol yng Nghymru. - Andrew RT Davies AS, Y Ceidwadwyr Cymreig
- Rhun ap Iorwerth AS, Plaid Cymru
Mae hwn yn gyfle i’r Aelodau o’r Senedd drafod maniffesto eu plaid ar gyfer etholiadau 2021 y Senedd, sut mae’n cyd-fynd â cheisiadau polisi allweddol RNIB Cymru a beth fyddent yn ei wneud fel Llywodraeth nesaf Cymru er mwyn goresgyn y rhwystrau i bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru. Bydd sesiwn Holi ac Ateb hefyd. Os hoffech chi ofyn cwestiwn i’n panelwyr ni, cyflwynwch eich cwestiynau ymlaen llaw. Os hoffech chi gael unrhyw gymorth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â: Nathan Owen, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, RNIB Cymru nathan.owen(at)rnib.org.uk / 07783 811 687 |