Mae canol trefi wedi bod wrth wraidd cymdeithas yng Nghymru ers amser maith. Does dim ots o ble rydych chi'n dod a pha mor hên ydych chi, mae gan bob un ohonom atgofion da o ymweld â chanol ein trefi lleol.
Mae canol trefi wedi ac yn parhau i roi gwerth i gymunedau. Maen nhw wedi creu swyddi. Maent wedi rhoi lleoedd i ni wario arian, ymweld a chymdeithasu, yn fangre sydd yn ffurfio rhan o ein hymdeimlad o’n hunaniaeth.
Ond sut mae’r dyfodol yn edrych?
‘Rydym eisiau trafod yr heriau sydd yn wynebu canol ein trefi ar hyn o bryd, effaith COVID-19, twf siopa arlein a gweithio o bell yn ddigidol. Mae’n amlygu mor bwysig yw adfywio. Nid yn unig adfywio adeiladau ac isadeiledd, ond llesiant gymdeithasol, amgylcheddol, ddiwylliannol, iechyd ac economaidd y cymunedau sydd yn ymweld ac yn byw yn y trefi hyn. Gwelwn yr adoylgiad yma fel cyfle i feddwl yn uchelgeisiol am ddyfodol ein trefi.
Gan ddilyn o’r arolwg arlein Eich Tref, Eich Dyfodol a’r ymchwil eang sydd wedi ei wneud gan y tim ymchwil, bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno’r themau a’r safbwyntiau o’u gwaith hyd yma.
Bydd y digwyddiad hefyd yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n mynychu i gyfrannu eu safbwyntiau yn ystod y sesiwn. Bydd esiamplau wedi eu cynnwys hefyd er mwyn cynnau syniadau.
Ble a phryd
Dydd Iau 20 Mai 2021
10:30 – 12:00
Zoom
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.
Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Dylech sicrhau eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cadw lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch chi.
Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad, anfonwch e-bost i good.practice(at)audit.wales