Cynllun ‘Kickstart’ i gyllido swyddi i bobl ifanc yng Nghymru

Bydd CGGC yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol na allant fel arall fod yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael mynediad at Gynllun ‘Kickstart’ Llywodraeth y DU, sy’n darparu swyddi â chymhorthdal llawn ar gyfer pobl ifanc ledled y DU.

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

Cynllun ‘Kickstart’ i gyllido swyddi i bobl ifanc yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 16/09/20 | Categorïau: Cyllid, Awdur: 

Bydd CGGC yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol na allant fel arall fod yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael mynediad at Gynllun ‘Kickstart’ Llywodraeth y DU, sy’n darparu swyddi â chymhorthdal llawn ar gyfer pobl ifanc ledled y DU.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi lansio’r Cynllun ‘Kickstart’ (Saesneg yn unig) er mwyn darparu cyllid i gyflogwyr greu lleoliadau swydd newydd chwe mis o hyd ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-24 oed.

Mae’r cynllun ar agor i fudiadau mawr sy’n creu 30 o swyddi neu fwy yn unig, ond bydd CGGC yn gwneud cais i’r cynllun ar ran mudiadau gwirfoddol Cymru sydd eisiau creu swyddi ar raddfa lai.

Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru wneud cais nawr drwy CGGC os gallant gyflogi aelodau newydd o staff rhwng 16-24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sy’n wynebu’r risg o ddiweithdra hirdymor. Rhaid i’r lleoliadau swydd fod yn chwe mis o hyd ac yn o leiaf 25 awr yr wythnos.

Ar gyfer pob rôl a gaiff ei chreu, bydd yr arian yn talu am:

  • 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol am 25 awr yr wythnos
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogwr
  • Cyfraniadau cofrestru awtomatig lleiaf y cyflogwr

Bydd cyllid ychwanegol hefyd i gynorthwyo pobl ifanc i fagu profiad a’u helpu i symud i gyflogaeth barhaol ar ôl iddyn nhw gwblhau’r swyddi a gyllidwyd gan y Cynllun ‘Kickstart’.

SUT I WNEUD CAIS

I gyflwyno cais am gyllid, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Os ydych chi wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch chi fewngofnodi drwy nodi eich enw defnyddiwr a chyfrinair ar y sgrin hafan.

Gall mudiadau gofrestru ar MAP drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru. Os oes angen help arnoch i gofrestru, edrychwch ar y fideo hwn.

Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, gallwch chi lenwi’r ffurflen gais ar gyfer y Cynllun ‘Kickstart’ sydd ar gael drwy MAP.

SUT A PHRYD FYDD CYLLID YN CAEL EI DDYRANNU?

Mae’r DWP yn disgwyl y bydd y lleoliadau cyntaf yn debygol o fod ar gael o fis Tachwedd ymlaen ar gyfer mudiadau mwy o faint sy’n gwneud cais uniongyrchol.

I’r rheini sy’n gwneud cais drwy CGGC, dyma fydd y broses:

  1. Grwpiau yn gwneud cais ar gyfer y cynllun drwy MAP CGGC
  2. CGGC yn gwirio cymhwysedd y ceisiadau
  3. Unwaith y bydd gan CGGC bentwr o ryw 30 o rolau swydd cymwys o leiaf, byddant yn cael eu cyflwyno i’r DWP ar ran yr ymgeiswyr
  4. DWP yn cynnal ei gwiriadau ei hun ac yn hysbysu CGGC ynghylch y rhai a gymeradwywyd
  5. Os yn llwyddiannus, bydd CGGC yn dosbarthu’r cyllid i’r ymgeiswyr i greu eu swyddi

Mae’r ceisiadau drwy CGGC ar gael i fudiadau gwirfoddol yn unig (ee elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol neu grwpiau nid-er-elw eraill) sy’n gweithredu yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â kickstart(at)wcva.cymru.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity