Cymerwch ran yn ein Harolwg Cysylltedd Digidol

Mae FfCyM-Cymru, ar y cyd â Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a’r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA Cymru), wedi lansio arolwg gyda’r nod o greu darlun o gysylltedd digidol ar draws Cymru.

Ers Covid-19 mae pwysigrwydd cysylltedd digidol da wedi dod yn fwyfwy amlwg. Rydym wedi dibynnu ar fynediad i’r rhyngrwyd i gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a’n cymunedau yn ogystal ag ar gyfer gwaith, busnes, addysg, hamdden a gweithgareddau pob dydd.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad oes pawb gyda mynediad i fand eang ‘digonol’, yn enwedig mewn cymunedau gwledig. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Ofcom ym mis Rhagfyr 2020, nid oes gan 18,000 o gartrefi fynediad i fand eang ‘digonol’, sy’n darparu cyflymder lawrlwytho o 10 Mb yr eiliad a chyflymder lanlwytho o 1 Mb yr eiliad.

Cymerwch ran yn ein harolwg ar-lein i rannu eich profiadau gyda ni a rhannwch yr arolwg gydag eraill:- https://www.surveymonkey.co.uk/r/Q52Z77J

Mae’r arolwg yn gwbl ddienw ac yn agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn.

Os oes angen copi caled arnoch, cysylltwch â Swyddfa FfCSyM-Cymru ar walesoffice(at)nfwi-wales.org.uk  neu 029 2022 1712.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity