Cwrs e-ddysgu i helpu gweithwyr allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i uwchsgilio'n ddigidol yn ystod Covid-19
Yr wythnos hon, mae cwrs e-ddysgu rhad ac am ddim, i helpu i fynd i’r afael â’r gagendor digidol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, wedi cael ei lansio yng Nghymru.
Mae'r cwrs dwyieithog newydd, Ysbrydoli Defnydd Digidol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Inspiring Digital Use in Health and Social Care wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth, a hynny rhwng Cymunedau Digidol Cymru a Digital Unite
“Mae'r cwrs e-ddysgu lefel mynediad hwn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal yng Nghymru wedi bod yn cael ei ddatblygu gyda Digital Unite dros y 12 mis diwethaf, felly rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i'w lansio a gweld pa effaith y bydd yn ei chael.
“Gall technoleg ddigidol fod yn llethol i lawer, felly rydym wedi ceisio gwneud y cwrs hwn mor syml a rhyngweithiol â phosibl. Mae'n helpu gweithwyr allweddol i ddod o hyd i wybodaeth iechyd o ansawdd ar-lein, ac yn eu cyfeirio at y goreuon ar gyfer eu cleifion a defnyddwyr eu gwasanaethau o ran offer ac adnoddau ar-lein ac apiau.
“Yn y pen draw, rydym am i’r cwrs hwn fod yn gam iddynt ddod yn hyrwyddwyr digidol ar gyfer eu sefydliad, pan fyddant yn gallu helpu eraill i ymgysylltu â thechnolegau digidol fel eu bod yn cael y budd mwyaf o’r cyfleoedd a ddarperir i newid bywyd.”
Dywedodd Laura Phillips, swyddog Hyfforddiant a Datblygu yn Cymunedau Digidol Cymru
Mae yna 250 o godau talebau ar gael i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n dymuno cyfranogi yn y cwrs. I wneud cais am daleb, anfonwch neges e-bost i: digitalcommunities@wales.coop.