Ar y cyd â Chefnogi Trydydd Sector Cymru, hoffem eich gwahodd i fynychu gweithdy ‘Sut i Wneud Cais am Gyllid’ ar-lein, lle byddwn yn amlinellu'r newidiadau diweddaraf i'n proses ymgeisio, yn rhoi manylion y newidiadau i'r cyllid sydd ar gael, gan gynnwys ein Hymddiriedolaeth Cymdogaeth Côd Post newydd sbon. Bydd hwn yn gyfle gwych i holi am y broses ymgeisio, neu drafod unrhyw syniad sydd gennych â ni.
Bydd y sesiwn yn rhedeg ar-lein (Zoom) o 10yb – 11.30yb ar Ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2020.
I gofrestru, e-bostiwch funding(at)postcodelottery.co.uk erbyn 20 Gorffennaf yn nodi 'Gweithdy CTSC ' ym mhennawd y neges. Cofiwch gynnwys enw eich sefydliad a'r Sir yr ydych wedi'ch lleoli ynddi yn eich e-bost.
Bydd dolen i'r digwyddiad yn cael ei anfon ar fore'r sesiwn.
Sylwch y bydd y sesiwn yn rhedeg drwy gyfrwng y Saesneg.