Coronafeirws: Gwybodaeth i Ymddiriedolwyr

Mae pandemig y coronafeirws wedi cyflwyno problemau difrifol i ymddiriedolwyr pob elusen, sy’n golygu bod rheoli risg a gwneud penderfyniadau effeithiol yn bwysicach nag erioed.

Mae’r materion sydd angen i ymddiriedolwyr eu hystyried yn cynnwys:

 

  • Sut i gynnal cyfarfodydd a gwneud penderfyniadau
  • Sut i nodi unrhyw risgiau i’ch elusen, gan gynnwys risgiau ariannol
  • Sut i ddiogelu eich buddiolwyr, staff a gwirfoddolwyr
  • Sut i gefnogi cyflogeion gyda chamau i gadw pellter cymdeithasol a’r rheini a allai orfod hunanynysu
  • Sut i drafod unrhyw darfiad i wasanaethau a phrosiectau gyda chyllidwyr

Bydd CGGC yn darparu diweddariad dyddiol ar gyfer y sector gyda’r newyddion diweddaraf: diweddariadau ac arweiniad ar COVID-19

Gall ymddiriedolwyr hefyd gael cymorth lleol gan y cynghorau gwirfoddol sirol (CVCs)

Gallwch gysylltu â CGGC ag unrhyw gwestiynau cyffredinol ynghylch llywodraethiant drwy e-bostio governance(at)wcva.cymru

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelu, cysylltwch â’n gwasanaeth diogelu safeguarding(at)wcva.cymru

Mae llawer o gyllidwyr elusennau wedi dweud y byddant yn ceisio bod yn hyblyg ac yn sympathetig yn ystod y cyfnod hwn, felly byddem yn eich argymell i gysylltu â nhw i drafod unrhyw darfiad posibl i raglenni a gyllidir ar unwaith.

Dyma rai adnoddau a allai fod o gymorth i chi:

Mae Dan Francis, Uwch Ymgynghorydd Llywodraethiant y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) wedi blogio am Goronafeirws a Llywodraethiant. Mae’r blog yn cynnwys rhestr o gwestiynau i feddwl amdanynt a chanllawiau ar gynnal cyfarfodydd o bell.

Gallwch weld canllawiau ar bynciau penodol isod:

Canllawiau’r Comisiwn Elusennau

Mae’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr wedi nodi:

Rydym eisiau sicrhau elusennau y bydd ein dull rheoli yn ystod y cyfnod hwn mor hyblyg a chefnogol â phosibl. Mae’n rhaid i elusennau, a ninnau, roi blaenoriaeth i ofalu am y cyhoedd a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. Gall elusennau fod yn hyderus y byddwn, lle bynnag y bo’n bosibl, yn ymddwyn mewn modd pragmataidd drwy ystyried y buddiannau cyhoeddus ehangach yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen.

Gall ymddiriedolwyr gysylltu â’r Comisiwn i ofyn am estyniad ar gyflwyno’u ffurflen flynyddol os bydd angen.

Os oes angen i chi gysylltu â’r Comisiwn, gallwch ffonio’r ganolfan gyswllt ar 0300 066 9197.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity