Anfonwyd ar ran Canolfan Materion Rhyngwladol / Hinsawdd Cymru Cymru
Rwy'n cymryd rhan mewn ymgyrch newydd, cyffrous - Climate.Cymru. Rydym yn gobeithio cyflwyno 50,000 o leisiau o Gymru yng nghynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow fis Tachwedd 2021 (COP26) i fynnu bod ein harweinwyr yn gweithredu dros yr hinsawdd yn seiliedig ar dystiolaeth. Yn ogystal, rydym yn awyddus i arddangos rhai o'r camau gweithredu cyffrous sy'n digwydd yng Nghymru i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a'r argyfwng natur.
Er mwyn llwyddo, hoffem ddenu cymaint o leisiau amrywiol â phosibl a byddem wrth ein bodd petai eich sefydliad yn cofrestru fel partner.
Bydd sefydliadau partner yn cael eu henwi ar wefan Climate.Cymru.
Beth ydym yn gofyn i bartneriaid ei wneud?
- cofrestru ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan (isod)
- rhannu'r ymgyrch gyda'u rhwydweithiau ac annog pobl i ychwanegu eu lleisiau - ar hyn o bryd, mae gennym opsiwn cofrestru ar y wefan, ond yn fuan byddwn yn ychwanegu cyfleoedd i unigolion ychwanegu eu lleisiau yn llythrennol
- cytuno gyda'n hegwyddorion (isod)
- rydym hefyd yn croesawu partneriaid i ymuno â'r grŵp llywio i lywio'r ymgyrch
I ddod yn bartner, cwblhewch y ffurflen fer yma.
Egwyddorion Climate.Cymru
- Rydym yn cydnabod brys argyfwng yr hinsawdd a natur
- Rydym yn gwerthfawrogi ac yn cynnwys lleisiau ledled cymunedau yng Nghymru
- Rydym yn cefnogi'r angen i ganolbwyntio ar gamau gweithredu gwyrdd a theg, gan gydnabod effeithiau anghyfartal newid hinsawdd, ac weithiau, gweithredu dros yr hinsawdd
- Rydym ni'n credu y dylai camau gweithredu fod ar sail y dystiolaeth orau sydd ar gael
- Rydym ni'n credu y dylai camau gweithredu gyd-fynd â 7 nod a 5 ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Cyfryngau cymdeithasol
Instagram: instagram.com/climate.cymru
LinkedIn: linkedin.com/company/climatecymru
Facebook: facebook.com/ClimateCymru
Twitter: twitter.com/climatecymru