Mae ymarfer ymgysylltu ‘Byw ym Mhowys’ yn cael ei lansio heddiw (Dydd Mawrth 8 Mehefin) ac yn rhedeg hyd hanner nos ar ddydd Sul 11 Gorffennaf.
Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a ddaeth rym fis Ebrill 2016, â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Sefydlodd y Ddeddf Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, gyda’r cyngor, y bwrdd iechyd, y gwasanaeth tân ac achub a Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r byrddau hyn.
Dywedodd y Cyng Rosemarie Harris, Cadeirydd PSB Powys: “Mae PSB Powys yn gyfrifol am ddatblygu Asesiad Llesiant a Chynllun Llesiant lleol i’r ardal ac am ddiweddaru’r cynllun hwnnw bob pum mlynedd.
“Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth drigolion ar draws y sir i sicrhau ein bod yn gallu deall y pwysau y mae ein cymunedau’n eu hwynebu er mwyn i ni allu defnyddio’r wybodaeth o’r ymarfer ymgysylltu hwn, ynghyd â ffynonellau data arall, i lywio ein cynllun llesiant nesaf i Bowys.”
Gallwch ymateb yn y ffyrdd canlynol:
- arolwg ar-lein - https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/llywio-ein-cynllun-llesiant
- arolwg papur - anfonwch e-bost customerservices(at)powys.gov.uk i ofyn am fersiwn wedi’i hargraffu
I gael rhagor o wybodaeth am PSB Powys a’r cynllun llesiant, ewch i dudalen gwe Llesiant ym Mhowys: https://cy.powys.gov.uk/cynaliadwyedd