Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!
Rhoi dealltwriaeth i bobl o'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio eu profiad bywyd er mwyn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a darparu Gwasanaethau Iechyd.
Byddwn yn clywed gan gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr presennol sy’n eistedd ar Fyrddau Iechyd a Lles am eu profiadau dros ddiwrnod llawn o hyfforddiant. Byddwn yn edrych ar sut mae cyfarfodydd yn cael eu strwythuro a sut i baratoi ar gyfer y rhain er mwyn osgoi peryglon megis pwyntiau sbarduno.
Bydd elfennau o’r hyfforddiant yn edrych ar bendantrwydd a chyfarfod ffug.
Byddwn yn rhoi golwg ar rai o ddamcaniaethau cydgynhyrchu a rhannu grym.
Byddwn hefyd yn archwilio cyfleoedd presennol i bobl gymryd rhan mewn cynllunio gwasanaethau lleol a rhoi gwybodaeth ar sut i wneud cais am y rolau hyn.
Ar ddiwedd y cwrs bydd gan gyfranogwyr ddealltwriaeth dda o: -Sut i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn gwasanaethau Iechyd a Lles ym Mhowys -Ddamcaniaethau sy'n tanategu pwysigrwydd cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a chynhalwyr wrth gynllunio'r gwasanaethau hyn -Brofiad ymarferol o sut mae byrddau partneriaeth yn cynnal cyfarfodydd. - Rwystrau i gyfranogiad a sut i'w goresgyn. -Gyfleoedd presennol ar gael ar unwaith a sut i wneud cais amdanynt
Unrhyw un sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a lles ym Mhowys ac a hoffai ddefnyddio eu profiad bywyd i wneud newid cadarnhaol yn y gwasanaethau hyn.
Lleoliad | Math o docyn | Pris | Ticedi sydd ar gael | |
---|---|---|---|---|
PAVO Offices Unit 30 Ddole Rd Ind Est Llandrindod Wells Powys LD1 6DF | £0.00 |
Digwyddiad wedi bod
|