Gwirfoddoli Ar-lein

Ydych chi erioed wedi ystyried defnyddio gwirfoddolwyr ar-lein yn eich sefydliad?

Gliniadur Gwirfoddoli Ar-lein

Pam gwirfoddoli ar-lein?

Dengys adroddiad diweddar ar wirfoddoli ym Mhrydain, fod hyd at 63% o wirfoddolwyr yn gwneud o leiaf rhywfaint o’u gwirfoddoli ar-lein (trwy’r rhyngrwyd oddi cartref neu o rywle arall).

Trwy recriwtio gwirfoddolwyr ar-lein gallwch gynnig ffyrdd newydd i bobl gyfrannu at eich gwaith  ac ehangu’r gronfa o sgiliau a safbwyntiau sydd ar gael ichi.

Mae gwirfoddolwyr ar-lein yn rhoi amser mewn nifer o ffyrdd amrywiol. Gall eu tasgau gynnwys:

  • Helpu gyda’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • Sefydlu eich gwefan
  • Cyfrannu at flogiau neu gylchlythyrau
  • Dylunio graffeg a golygu fideos
  • Prawf-ddarllen, trawsgrifio a chyfieithu
  • Tiwtora a mentora trwy ebost a Skype
  • Trefnu neu ddadansoddi archifau ffotograffau neu ddogfennau
  • Ac unrhyw beth arall y gellir ei gyflawni trwy’r rhyngrwyd!

Awgrymiadau da ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr ar-lein

  • Sicrhewch gefnogaeth gyda'ch sgiliau digidol - gall gwirfoddolwyr ar-lein eich helpu gyda phrosiectau digidol ond mae angen i chi wybod y pethau sylfaenol er mwyn eu cefnogi.
  • Lluniwch ddisgrifiad rôl manwl ar gyfer eich gwirfoddolwr - byddwch yn glir am yr hyn rydych chi am iddyn nhw ei gyflawni
  • Adolygwch eich proses ymgeisio a'ch polisïau - ydyn nhw'n gwneud synnwyr ar gyfer gwirfoddoli ar-lein? A yw'ch ffurflen gais yn hygyrch i bawb?
  • Mae cyfathrebu clir a rheolaidd yn hanfodol - darganfyddwch pa ddull cyfathrebu sy'n gweddu orau i'ch gwirfoddolwyr. Cofiwch nad yw cyfathrebu ar-lein bob amser yn ddibynadwy a gwnewch yr ymdrech i gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd
  • Gwnewch i'ch gwirfoddolwyr ar-lein deimlo'n rhan o'ch sefydliad - meddyliwch sut y byddwch chi'n dangos eich gwerthfawrogiad ac yn dathlu eu cyflawniadau, a sut y gallwch chi eu cynnwys yn eich cymuned wirfoddolwyr.

Cysylltwch â ni

Am gynnwys gwirfoddolwyr ar-lein ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Cysylltwch â ni am help a chyngor:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity