Mae dau Linyn i’r Gronfa.
Llinyn 1 - Ymateb
Diben yr elfen ymateb yw cefnogi sefydliadau i gyflenwi gweithgareddau ar gyfer pobl agored i niwed sydd wedi eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Cyllidir y Llinyn hwn gan gyllid Comic Relief o arian a godwyd trwy’r ‘Big Night In.’
Llinyn 2 - Adfer
Diben yr elfen hon yw sicrhau fod gan sefydliadau’r trydydd sector/ gwirfoddol yr adnoddau er mwyn ailgychwyn neu sefydlu gwasanaethau a gweithgareddau cynaliadwy (Arian Sefydlu) i wireddu’r deilliant o wella llesiant corfforol a meddyliol pobl er mwyn hyrwyddo byw’n annibynnol ac i atal ymyriadau lefel uwch.
Mae’r gronfa ar agor i Sefydliadau’r Sector Gwerth Cymdeithasol fel a ganlyn:
- Elusennau Cofrestredig
- Cwmnïau Buddiant Cymunedol
- Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cydweithfeydd
- Mentrau Cymdeithasol
- Cyngor Sir Powys, Cynghorau Tref a Chymuned sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliad y Sector Gwerth Cymdeithasol lle caiff y fenter ei harwain gan y Sefydliad Gwerth Cymdeithasol ac mae’n atebol fel y corff sy’n derbyn y grant.
- Grwpiau anghyfansoddiadol anffurfiol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliad/grŵp cyfansoddiadol. Y sefydliad/grŵp cyfansoddiadol fydd yr ymgeisydd sy’n arwain, ac yn atebol fel y corff sy’n derbyn y grant.
Hyd y Gronfa
Disgwylir i brosiectau a mentrau cychwyn cyflenwi ym Medi 2020 a byddant yn cael eu cyllido hyd at 31ain Mawrth 2021.
Llinyn 1 Ymateb - mae cyfanswm o £26,591 ar gael, ac yn Llinyn 2 Adfer mae £141,751 ar gael.
Ni osodwyd unrhyw uchafswm o ran y swm y gall sefydliadau wneud cais amdano, oherwydd bydd y panel yn penderfynu ar ddefnydd gorau’r adnoddau sydd ar gael.
I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â: grants(at)pavo.org.uk
Y Gronfa Datblygu Cymdeithasol - Symud ymlaen
Am fwy o wybodaeth, croeso ichi gysylltu â Tim Davies, Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol PAVO ar 01597822191 neu drwy e-bostio tim.davies@pavo.org.uk