Tyfu eich busnes gyda grant o hyd at £25k

Gallai busnesau ym Mhowys sydd â chynlluniau i ehangu neu sicrhau eu dyfodol mewn cyfnod heriol fod yn gymwys i dderbyn Grant Twf gan y cyngor sir.

 

Mae symiau o rhwng £1,000 a £25,000 ar gael ar ôl i’r cyngor sicrhau cyfanswm o £393,000, gan Lywodraeth y DU, drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

 

Bydd yr arian hwn ar gael dros gyfnod o ddwy flynedd gyda'r ffenestr bresennol ar gyfer ceisiadau ar agor tan 5pm ddydd Gwener 15 Rhagfyr. Yna bydd ail ffenestr yn agor ar 1 Ebrill 2024.

 

Gallai'r ddwy ffenestr hefyd gau'n gynnar os yw'r holl arian yn cael ei ddyrannu - £143,000 am y cyntaf a £250,000 am yr ail.

"Mae'r grantiau hyn yn cael eu darparu fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd yn ystod cyfnod anodd," meddai'r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus, "fel rhan o'n nod ehangach o greu Powys cryfach, tecach a gwyrddach”.

"Rydym yn awyddus i helpu busnesau yn y sir, a'r rhai sydd am symud i yma, ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys gwneud hynny trwy rwydweithiau lleol."

Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys y prosiect neu uchafswm o £5,000 fesul swydd a grëwyd a/neu £5,000 fesul swydd a ddiogelir, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd gyfwerth ag amser llawn, er mwyn cael ymgeisio am y grant.)

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb ar gyfer Grant Twf Busnes Powys nawr: https://formbuilder.evolutive.co.uk/formsite/form/b2affb04-ccb4-4308-81d5-9b1a87527086

Gellir defnyddio'r arian i helpu i ariannu cynlluniau cyfalaf a phrosiectau refeniw unwaith-yn-unig ond ni ellir ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg arferol.

Mae'r gefnogaeth wedi'i hanelu'n bennaf at y sectorau canlynol:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Ynni a'r Amgylchedd
  • Cyllid a Gwasanaethau Proffesiynol
  • Gwybodaeth, Technoleg a Thelathrebu
  • Gwyddorau Bywyd
  • Bwyd a Diod
  • Twristiaeth
  • Mân-werthu
  • Gofal

Bydd ceisiadau gan sectorau eraill, ac eithrio ffermio, pysgota, coedwigaeth a gwasanaethau statudol yn cael eu hystyried ar sail eu gwerth i'r economi leol.

Yn ddelfrydol, bydd y bobl sy'n cael swyddi, neu'n cael eu cadw mewn swyddi presennol, yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol: https://www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage

Gofynnir i fusnesau sy'n cymryd rhan hefyd ddangos eu hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru: https://businesswales.gov.wales/cy/pynciau-a-chyfarwyddyd/cynaliadwyedd-a-chyfrifoldeb-cymdeithasol/addewid-twf-gwyrdd

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Sir Powys: https://cy.powys.gov.uk/article/14862/Grant-Twf-Busnes-Powys

Neu anfonwch e-bost i: regeneration(at)powys.gov.uk

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity