Gwahoddir ceisiadau am grantiau ar gyfer prosiectau ym Mhowys a fydd yn hybu cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a helpu i ddatblygu a chynnal ein cymunedau a’n pentrefi gwledig.
Mae hyd at £7,000 o gyllid ar gael i gefnogi prosiect trwy Arwain, rhaglen LEADER y sir sy’n ceisio cael trigolion, busnesau a chymunedau i gynnig atebion arloesol i fynd i’r afael â heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 5 Rhagfyr 2021 a rhaid gwario unrhyw arian a dderbynnir erbyn 15 Ebrill 2022.
I wneud cais, ewch i wefan Arwain: Sut i wneud cais (arwain.wales)
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm RDP dros e-bost: rdp(at)powys.gov.uk neu ffoniwch: 01597 827378.