Mae cyllid ar gyfer busnesau cymdeithasol newydd yn ôl!

Mae grantiau dechrau busnes carbon sero net yn cynnig cymorth ariannol i egin fusnesau cymdeithasol Cymreig ddechrau masnachu neu fuddsoddi, ynghyd â chymorth technegol i ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd.

Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd.

 

Mae Cylch 2 y cynllun ar agor nawr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais.

AMCANION Y CYNLLUN

Helpu busnesau cymdeithasol newydd i lwyddo

Rydyn ni’n cydnabod fod prinder cyfleoedd cyllido i fentrau cymdeithasol sy’n dod i’r golwg.

Heb ffrydiau refeniw profedig, mae’n anodd cael gafael ar gyllid ad-daladwy a gall fod yn amhriodol ar y pwynt hwn o ddatblygu’ch busnes. Fodd bynnag, gwyddom ei fod yn costio cryn dipyn o arian i ddod â chynnyrch neu wasanaeth i’r farchnad a sefydlu sylfaen alw i wneud y busnes yn gwbl barod ar gyfer buddsoddi.

Heb fodd preifat o gefnogi’ch hunan a’ch busnesau drwy’r camau cynnar hyn, mae perygl na fydd syniadau da, effeithiol ar gyfer busnesau cymdeithasol yn gallu cael eu gwireddu oherwydd diffyg cyllid.

Gwneud ystyried yr hinsawdd yn beth arferol

Gyda’r COP26 diweddar, a’r argyfwng hinsawdd rydyn ni’n ei wynebu, mae ôl troed carbon pob busnes yn cael ei archwilio’n fanwl, fel y dylai.

Mae hyn yn ganolog i Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, ac yn un o’r prif bethau y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol am ei wireddu.

Mae llawer o’r ymdrechion yn y maes hwn yn canolbwyntio ar ôl-osod ymddygiad sy’n ystyriol o’r hinsawdd i mewn i fusnesau sydd eisoes yn bodoli. Yn ein tyb ni, pe bai pob busnes newydd yn mabwysiadu dull amgylcheddol gynaliadwy o’r dechrau, gellid osgoi’r camau atgyweirio mwy costus a gallai ymdrechion i gynhyrchu cyn lleied â phosibl o allyriadau carbon ddod yn ‘fusnes arferol’.

BETH FYDD YMGEISWYR LLWYDDIANNUS YN EI GAEL

Cymorth ariannol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grant o hyd at £12,500 i’w helpu i lansio eu masnachu’n swyddogol neu baratoi eu busnesau ar gyfer buddsoddiad. Bydd y grant yn cael ei wario ar gael y busnes at un o’r pwyntiau hyn ac nid oes yn rhaid iddo gael ei wario ar weithgarwch lleihau carbon.

Cymorth technegol

Bydd mudiadau yn y cynllun peilot hwn hefyd yn cael cymorth gan ymgynghorydd newid hinsawdd er mwyn ymwreiddio arferion gweithredu sy’n ystyriol o’r hinsawdd o fewn eu busnesau o’r cychwyn cyntaf. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Asesu’r cynllun busnes cyfredol er mwyn amcangyfrif yr allyriadau carbon o weithredu ‘fel arfer’
  • Ail-ddylunio arferion gweithredu allweddol er mwyn lleihau allyriadau posibl
  • Cymorth ac arweiniad i roi’r arferion diwygiedig ar waith
  • Dylunio a chefnogi’r defnydd o fesurau lleihau ôl troed carbon perthnasol y gall y busnes eu mabwysiadu yn y dyfodol

SUT I WNEUD CAIS

Mae hwn yn gynllun peilot gyda chronfa grant gychwynnol o £150,000 i gefnogi 12 o fentrau cymdeithasol. Disgwylir y bydd galw eithaf uchel am y grant, a bydd yn cael ei ddyrannu drwy ddetholiad cystadleuol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen grant dechrau busnes carbon sero net.

Y dyddiad cau i dderbyn datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cylch hwn yw 21 Medi 2022.

CAEL CYMORTH GYDA’CH CAIS

Mae ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn hapus i’ch helpu chi i wella’ch cais. Os cawn ni’r cais yn ddigon cynnar yn y broses, byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i wneud eich cais mor dda â phosibl cyn ei gyflwyno i’r panel asesu.

Bydd hyn yn dibynnu ar gapasiti’r tîm, felly cyflyma’n byd y byddwch chi’n cyflwyno’r cais, gorau i gyd fydd eich siawns o gael ein help. Peidiwch â’i adael i’r funud olaf.

Cyllidir y grant dechrau busnes carbon sero net gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan y tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity