Pwy all ymgeisio:
Mae’r gronfa’n agored gynnwys grwpiau cymunedol sefydliadau gwirfoddol, elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill. Y mae hefyd ar agor i’r bwrdd iechyd, ysgolion, yr awdurdod lleol, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau eraill y sector cyhoeddus. Rhaid bod gan ymgeiswyr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol ar gyfer unrhyw waith sy’n cael ei gyflawni ynghyd ag unrhyw ganiatâd a chydsynio angenrheidiol i gyflawni’r prosiect.
Maint y gronfa:
Gall pob prosiect wneud cais am grant o rhwng £2000 a £10,000. Mae’r arian sydd ar gael ar gyfer eitemau/adnoddau/offer Cyfalaf. Os fyddwch yn cynllunio i brynu unrhyw eitem darn unigol o offer/adnodd (yn cynnwys unrhyw waith gan gontractwyr) sy’n costio dros £5000 yna rhaid i chi gyflwyno tri dyfynbris ynghyd â’ch cais. Grant ad-daliad yw hwn; rhaid i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth o wariant i dderbyn taliadau grant.
Beth fyddwn yn ei ariannu:
Rydym yn chwilio am brosiectau a fydd yn gweithredu mewn modd ymarferol i greu Lleoedd lleol ar gyfer natur drwy greu mannau gwyrdd, gan gynnwys eu creu ar strwythurau ac arwynebau o waith dyn, neu wella mannau gwyrdd sy’n bodoli eisoes. Nid oes raid i brosiectau fod wedi eu seilio ar un safle; er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch yn cynllunio cyflenwi prosiect ar hyd a lled tref. Rhaid i safleoedd fod ar dir sydd dan nid-er-elw, rhaid i brosiectau wella byd natur a galluogi cymunedau i gael mynediad at natur yn y fan maen nhw’n byw, gweithio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i brosiectau fod mewn ardaloedd trefol (mewn trefi a phentrefi neu o fewn pellter cerdded). Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau mewn ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu (yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) neu brosiectau y bydd cymunedau ag ychydig neu ddim mynediad at fyd natur yn elwa oddi wrthynt.
Rhaid i bob prosiect gyfrannu at o leiaf un o ‘fesurau cymedrol’ Llywodraeth Cymru i:
- Gynyddu plannu blodau gwyllt;
- Cynyddu cyfleoedd tyfu bwyd cymunedol;
- Cynyddu plannu coed lleol;
- Creu coetiroedd dwys ac amrywiol o faint cwrt tenis;
- Creu cynefinoedd mewn gorsafoedd rheilffordd a chyfnewidfeydd trafnidiaeth;
- Annog blodau gwyllt a gwella bioamrywiaeth drwy newid arferion torri glaswellt;
- Creu gerddi synhwyraidd; neu
- Leihau’r defnydd o blaladdwyr.
Rhaid i bob prosiect fabwysiadu ‘egwyddor peidiwch â niweidio byd natur’ gan gynnwys camau fel defnyddio compost di-fawn a gostwng gwastraff plastig yn ogystal â defnyddio rhywogaethau brodorol priodol. Rhaid i ddeunyddiau fod yn addas i’r ardal, mor amgylcheddol gyfeillgar ag sy’n bosibl ac o ffynhonnell leol ble y bo hynny’n bosibl. Rhaid i blanhigion (gan gynnwys coed a blodau gwyllt) fod yn rhywogaethau brodorol ac o darddiad lleol.
Dylai pob prosiect gael ei gynllunio i gael ei gyflenwi mewn modd sy’n sicrhau cynaliadwyedd hir dymor. Rhaid i ymgeiswyr gytuno i gynnal y safle am bum mlynedd o leiaf a chael cynllun yn ei le ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol. Ni all y nawdd dalu am gostau parhaol cynnal a chadw, atgyweirio a rhedeg ond gellir defnyddio’r nawdd i brynu twls, offer a sied/cwt cadw twls i helpu i gynnal a chadw’r safle(oedd).
Ymhlith y prosiectau blaenorol, cafodd y canlynol eu creu: gerddi bywyd gwyllt a chymunedol, waliau gwyrdd, gerddi synhwyraidd yn ogystal â chreu lleiniau blodau gwyllt a dolydd blodau gwyllt. Gellir defnyddio’r arian hwn i brynu’r hyn sydd ei angen arnoch i greu lle lleol ar gyfer byd natur, er enghraifft:
- planhigion (coed, llwyni, hadau, bylbiau, tyweirch blodau gwyllt ac ati);
- twls ac offer;
- cynefinoedd bywyd gwyllt (e.e. blychau adar, gwesty gwenyn);
- potiau planhigion;
- compost;
- meinciau;
- bin compost; a
- chasgen ddŵr.
Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn, ond y gobaith yw y bydd yn rhoi syniad i chi o beth allai gael ei ariannu.
Graddfa Amser y Prosiect
Rhaid gwario’r arian o fewn y flwyddyn ariannol 2022/23. Rhaid i’r hawliad am grant terfynol, ynghyd â thystiolaeth o wariant, gael ei gyflwyno erbyn 17 Mawrth 2023. Bydd yn ofynnol bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cyflwyno hawliadau am grant yn chwarterol a rhaid cyflwyno adroddiad o’r prosiect ynghyd â ffotos, gyda’r hawliad am grant terfynol i ddangos sut y cafodd yr arian ei ddefnyddio.
Dyddiad Cau Ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00pm 12/06/2022. Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel.
Nodwch, os nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais cyn y dyddiad cau, ond bod gennych syniad i’r dyfodol ar gyfer prosiect Lleoedd lleol ar gyfer natur yna e-bostiwch ni i roi gwybod i ni. Mae’n bosibl y byddwn yn gallu symud y prosiectau hyn ymlaen yn hwyrach yn y flwyddyn, neu i’r flwyddyn ariannol nesaf os fydd rhagor o arian ar gael bryd hynny.
Nod 'Lleoedd' yw creu Byd Natur ar Stepen eich Drws, ble mae pobl yn byw, gweithio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedau i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur ac nid er mwyn derbyn natur mewn ffordd oddefol na bod yn arsylwyr arni yn unig. Mae ein llesiant meddyliol a chorfforol yn elwa hefyd wrth dreulio amser ym myd natur.
Rhaglen o'r gwaelod i fyny yw 'Lleoedd' sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu a/neu'r rheini ag ychydig neu ddim mynediad at natur.
Hoffai Partneriaeth Natur Powys gynnig y cyfle i bartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau wneud cais am arian grant i greu Lleoedd lleol ar gyfer natur ble mae pobl yn byw, gweithio a defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r gronfa'n agored gynnwys grwpiau cymunedol sefydliadau gwirfoddol, elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill. Y mae hefyd ar agor i'r bwrdd iechyd, ysgolion, yr awdurdod lleol, cynghorau tref a chymuned, sefydliadau eraill y sector cyhoeddus. Rhaid bod gan ymgeiswyr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus priodol ar gyfer unrhyw waith sy'n cael ei gyflawni ynghyd ag unrhyw ganiatâd a chydsynio angenrheidiol i gyflawni'r prosiect.
Ffurflen Gais Grantiau Lleoedd lleol ar gyfer natur (Word doc) [919KB]