Dydd Mawrth 26 Medi 2023, 2.30pm - 4.30pm yn Ystafell Gynadledda PAVO, Uned 30 Heol Ddole
Cyfle i grwpiau a sefydliadau lleol gwrdd â chyllidwyr am sgwrs 1:1, clywed am y grantiau sydd ar gael, amserlenni, awgrymiadau ar gyfer gwneud cais, meini prawf ac ati.
Archebwch (am ddim i fynychu) ar y ddolen berthnasol isod fel ein bod yn gwybod niferoedd.
Mae tair Ffair Gyllido ar y gweill ar draws Powys. Mae'r rhain yn addas ar gyfer grwpiau cymunedol trydydd sector, clybiau, sefydliadau, grwpiau chwaraeon ac yn y blaen sy'n chwilio am gyllid.
Mae gennym rhwng 3 a 5 o gyllidwyr yn mynychu pob un. Bydd pob un yn rhoi trosolwg o'u cyllid a'u grantiau, yn rhoi manylion y meini prawf, amserlenni, awgrymiadau ar gyfer gwneud cais ac yn y blaen, yna bydd cyfle i bobl gael sgyrsiau 1:1 gyda'r cyllidwyr. Mae'r digwyddiadau yn para tua 2 awr. Mae'n well ceisio cyrraedd y dechrau fel eich bod chi'n dal y cyflwyniadau.
Mae’n ddefnyddiol i ni gael niferoedd yn mynychu, felly archebwch gan ddefnyddio’r ffurflenni isod:-
Ystradgynlais: Dydd Mawrth 19 Medi 2.30pm tan 4.30pm yn Y Neuadd Les, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais SA9 1JJ
I archebu lle:
docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSdA5KP7zhiIZXhDrtFTQ2BYnJZ8GYCpFjVQ8C0DNCW-hR2ubw/viewform
Llandrindod: Dydd Mawrth 26 Medi 2.30pm - 4.30pm yn swyddfeydd PAVO, Uned 30 Heol Ddole, Llandrindod LD1 6DF.
Archebwch yma:
docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSc34dd-k9Y7Y2CD1xajxoa-Ywwfu569f-jdSNR6rcwOkXXYgg/viewform
Y Trallwng: Dydd Mawrth 10fed Hydref 4.30pm - 6.30pm yn COWSHACC, Oldford Lane, Y Trallwng SY21 7TE
Archebwch yma: docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSc8-l70Eb9oHbx1HVeA6UI6p6ByhPO7I6kSmCtj85xT1-KDPg/viewform
Rhannwch gydag unrhyw grwpiau a allai fod â diddordeb.