Mae ffenestr ymgeisio arall wedi'i lansio fel rhan o raglen ariannu gyffrous a allai helpu cymunedau Powys i adeiladu balchder mewn lle, cynyddu cyfleoedd bywyd i breswylwyr a gyrru twf economaidd da.
Mae'r trydydd galwad am geisiadau i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) wedi cael ei chyhoeddi gan Bartneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys. Mae'r bartneriaeth yn penderfynu sut mae dros £23m o gyllid Llywodraeth y DU yn cael ei wario ar draws pedwar maes blaenoriaeth.
Bydd yr alwad ddiweddaraf ar gyfer prosiectau sydd o fewn y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau.
Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chadeirydd Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys: "Prif nod y Gronfa Ffyniant Gyffredin yw meithrin balchder pobl yn eu cymunedau a chynyddu cyfleoedd i breswylwyr a busnesau.
"Bydd y bartneriaeth yn edrych ar sut y gall gefnogi'r nodau hyn orau ar draws y pedwar maes blaenoriaeth buddsoddi a bydd yn canolbwyntio ar gael y gwerth mwyaf o'r cyllid hwn i unigolion, cymunedau a busnesau ledled Powys.
"Rwy'n falch iawn bod ffenestr ymgeisio arall wedi agor ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae gan y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau y potensial i gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl leol, drwy gyfleoedd i uwchsgilio, ailhyfforddi neu ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd."
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau o dan y drydedd ffenestr yw 23:59 ddydd Sul, 1 Hydref, 2023.
Am fwy o wybodaeth am yr alwad agored, ewch i: Y Drydedd Alwad Agored - Cyngor Sir Powys
Dylid anfon unrhyw ymholiadau at ukspf(at)powys.gov.uk