Y dyddiad cau ar gyfer y grant hwn yw 27 Mai 2022 erbyn 12pm
Cynllun grantiau bach ‘Haf o Hwyl’ i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon a diwylliannol i blant a phobl ifanc 0-25 oed.
Mae’r cyllid ar gael ar gyfer gweithgareddau a drefnir rhwng 1 Gorffennaf 2022 a 30 Medi 2022 a’r nod yw darparu cyfleoedd chwarae a gweithgareddau yn eu cymunedau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gall y gweithgareddau redeg ar benwythnosau, gyda'r nos, a gwyliau ysgol hyd at 30 Medi 2022.
Er mwyn ein galluogi i gynnig ystod eang o weithgareddau ledled Powys dros gyfnod yr haf, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych:
- rydych eisoes yn darparu gweithgareddau yn ystod y cyfnod hwn.
- byddech yn hoffi/gallwch gynnig mwy o weithgareddau yn ystod y cyfnod hwn.
- os oes gennych chi syniadau am weithgareddau, efallai y gallwch chi eu cynnig yn ystod y cyfnod hwn.
- os ydych yn gwybod am wasanaeth neu sefydliad a fyddai â diddordeb mewn cynnig gweithgareddau
Mae gofyn i’r prosiectau gefnogi un neu fwy o’r amcanion canlynol ar gyfer plant a phobl ifanc:
· Cyfleoedd/gweithgareddau chwarae.
· Cyfleoedd/gweithgareddau Chwaraeon
· Gweithgareddau celf
· Gweithgareddau diwylliannol
· Prosiectau a gweithgareddau Blynyddoedd Cynnar
Rhaid i bob gweithgaredd a gynhelir yn ystod y tymor redeg y tu allan i oriau ysgol, bod yn rhad ac am ddim i blant, pobl ifanc a theuluoedd eu mynychu, gydag uchafswm o £5k fesul cais, bydd gofyn i chi hefyd gwblhau arolwg call ar gyfer gwybodaeth fonitro.
Y dyddiad cau ar gyfer y grant hwn yw 27 Mai 2022 erbyn 12pm bydd ceisiadau’n cael eu derbyn trwy wefan Cyngor Sir Powys, cliciwch ar y ddolen ganlynol:
Dysgwch am weithgareddau gwyliau i blant a phobl ifanc - Cyngor Sir Powys byddwch hefyd yn gallu darllen y canllawiau a lanlwytho dogfennau ategol perthnasol.